Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth beilot newydd yn cefnogi oedolion â Chlefyd Cynhenid y Galon i wneud ymarfer corff yn hyderus

19 Chwefror 2025

Mae astudiaeth beilot 12 mis sy'n cefnogi oedolion â Chlefyd Cynhenid y Galon i wneud ymarfer corff wedi derbyn £100,000 gan Sefydliad Prydeinig y Galon.Wedi’i datblygu gan y Gwasanaeth Clefyd Cynhenid y Galon i Oedolion (ACHD), dyma’r unig rhaglen o’r fath yn y DU sy’n integreiddio cymorth nyrsio a seicolegol ochr yn ochr â sesiynau ymarfer corff pwrpasol dan arweiniad ffisiotherapi.

Wedi'i lansio ym mis Medi, nod yr astudiaeth yw goresgyn rhwystrau lluosog sy'n atal oedolion â Chlefyd Cynhenid y Galon - cyflyrau'r galon sy'n bresennol o enedigaeth - rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys heriau ymarferol, megis mynediad cyfyngedig i gampfeydd oherwydd y cyflwr, yn ogystal â rhwystrau seicolegol, megis ofn ymarfer corff a diffyg hyder ynghylch sut i wneud ymarfer corff yn ddiogel.

Ar ôl cwblhau’r sesiynau dywedodd un claf: “Mae’r dosbarthiadau wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod yn gallu cymryd rhan mewn ymarfer corff yn fwy, a gwneud mwy o amser i mi fy hun.”

Eglurodd Anna McCulloch, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol Arweiniol yn y tîm ACHD: “Mae’n hynod bwysig bod pobl yn gwneud ymarfer corff ac yn symud i lefel ddiogel oherwydd mae’n rhagfynegydd mawr o iechyd corfforol, ond yn amlwg hefyd iechyd meddwl. Ond yr hyn yr oeddem yn ei weld yn aml mewn clinigau ac yn ystod apwyntiadau seicoleg oedd bod pobl yn gwybod y dylent wneud ymarfer corff ond eu bod yn rhy ofnus neu’n teimlo nad oedd ganddynt y sgiliau i’w wneud.”

Dywedodd y Nyrs Glinigol Arbenigol ACHD Sarah Finch: “Mae’r cyngor a roddir i’n cleifion am iechyd a lles wedi newid yn sylweddol dros y degawdau. Yn aml, pan oedd ein cleifion yn blant, dywedwyd wrthynt am fod yn ofalus wrth wneud ymarfer corff. Daeth llawer yn bryderus am weithgarwch corfforol oherwydd y cyngor a gawsant, y ffordd yr oedd yn gwneud iddynt deimlo, neu efallai bod eu rhieni wedi eu lapio mewn gwlân cotwm i raddau er mwyn eu cadw'n ddiogel. Mae'n ymwneud â thorri'r cylch hwnnw."

Cyn dechrau'r sesiynau ymarfer corff, caiff cyfranogwyr eu hasesu gan nyrs, ffisiotherapydd a seicolegydd. Mae pob sesiwn yn y gampfa yn cael ei rhagnodi gan y tîm Ffisiotherapi ac yn cael ei chefnogi gan yr adrannau Nyrsio a Seicoleg. Mae'n cynnwys cymysgedd o ymarfer corff cardiofasgwlaidd, hyfforddiant cryfder, ac ymarferion cydbwysedd ac fe'i dilynir gan gefnogaeth cymheiriaid, seicoaddysg, a sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar a ddarperir gan y Seicolegydd.

Dywedodd y Nyrs Glinigol Arbenigol ACHD Kindre Morgan: “Yn y sesiynau cychwynnol, rydyn ni’n gwneud gwiriadau pwysedd gwaed ar y dechrau a’r diwedd. Yn ystod y sesiwn, rydym yn monitro cyfradd curiad y galon a dirlawnder ocsigen gyda monitor bys. Wrth i'r rhaglen fynd rhagddi, mae cleifion yn dechrau rheoleiddio eu hunain. Rydym bob amser yno fel cymorth wrth gefn.

“Mae'r tîm Ffisiotherapi yn teilwra’r presgripsiwn ymarfer corff yn unol â gallu'r person, a'r claf sy'n rheoli faint y gall ei wneud. Felly, os ydynt yn teimlo eu bod yn mynd yn rhy fyr o anadl, byddem yn eu cynghori i barhau i wneud ymarfer corff ond lleihau'r dwyster. Ond wedyn rydyn ni hefyd yn eu dysgu sut i gydnabod efallai nad ydyn nhw'n rhoi eu hunain yn y 'parth hyfforddi', ac yn awgrymu y gallen nhw wthio eu hunain ychydig yn galetach yn dibynnu ar eu hanadlu, lefel canfyddedig o ymdrech a sut maen nhw'n teimlo."

Ar ôl cwblhau'r rhaglen chwe wythnos, mae cyfranogwyr yn cael cymorth dilynol gan y tîm nyrsio ac ôl-asesiad.

Dywedodd Anna: “Mae pobl yn dangos gwelliannau sylweddol yn eu hiechyd corfforol, gwelliannau yn ansawdd eu bywyd a chynnydd sylweddol yn eu hyder. Maent yn elwa ar gefnogaeth cymheiriaid ac yn ffurfio grwpiau WhatsApp. Mae rhai pobl wedi ymuno â dosbarthiadau eraill oherwydd eu bod wedi bod yn iawn i symud ymlaen i'r cam nesaf. Mae pobl eraill yn prynu offer sylfaenol ar gyfer eu tŷ, neu’n syml yn gweld newid yn eu hagwedd a hyder o’r newydd eu bod yn gallu symud yn fwy.

“Mae’n llawer mwy nag ymarfer corff. Mae’n ymwneud â datblygu’r hunan-gred hwnnw y gallwch chi ei ddysgu a’i ddatblygu, ac y gallwch ymddiried yn eich corff.”

Dywedodd un claf: “Ar ôl y sesiwn rwy’n teimlo’n hapus, yn obeithiol ac yn bondio gyda’r grŵp.”

Ychwanegodd y Ffisiotherapydd ACHD Hannah Davies: “Ar ôl ei gwblhau, gallwn atgyfeirio cleifion yn ddiogel i sesiynau ymarfer corff yn y gymuned megis y cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff a hyfforddwyr ymarfer corff lefel 4 preifat BACPR [Cymdeithas Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd Prydain] ledled Cymru. Mae hyn yn creu gwell cysylltiadau i gleifion ag ACHD i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn y tymor hwy a theimlo’n hyderus i wneud hynny.”

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru: “Mae’n gyffrous iawn gweld yr arloesedd hwn gan Wasanaeth Clefyd Cynhenid y Galon ​​i Oedolion yn datblygu ac yn cefnogi pobl yn ne Cymru sy’n byw gydag ACHD. Gyda chefnogaeth gan BHF Cymru, gobeithio y gall tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro barhau i wneud gwahaniaeth wrth gefnogi cleifion ACHD i fagu hyder a chyflawni eu nodau iechyd.”

Lleolir y sesiynau ymarfer corff yng Nghaerdydd ond maent yn agored i gleifion clefyd cynhenid y galon ar draws De Cymru. Gan gydnabod na all pob claf fynychu'n bersonol, mae'r tîm hefyd yn paratoi i gyflwyno fersiwn ar-lein o'r rhaglen i gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Dilynwch ni