Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau Galw Heibio yn dal ar gael mewn Canolfannau Brechu Torfol ar gyfer Brechlynnau rhag y Ffliw a COVID-19

9 Mawrth 2023 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dal i dderbyn apwyntiadau galw heibio ar gyfer eich brechlyn rhag y ffliw a dos atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref ar gyfer pob grŵp cymwys tan 31 Mawrth. 

Mae’r Ganolfan Brechu Torfol yng Nghaerdydd a’r Fro wedi’i lleoli yn Nhŷ Coetir, ac ar agor rhwng 10am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Sul. 

Gallwch gael eich brechlyn rhag y ffliw a COVID-19 ar yr un pryd os ydych yn poeni am ddod o hyd i amser ychwanegol i gael eich brechlynnau. 

Cael y brechlyn dos atgyfnerthu yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun, eich anwyliaid a’r gymuned ehangach rhag salwch difrifol. 

I gael rhagor o wybodaeth am eich cymhwysedd, ewch i’n tudalen Brechlyn rhag y Ffliw a COVID-19 neu am fanylion ar sut i gyrraedd ein safleoedd brechu, darllenwch yma

Dilynwch ni