24 Ionawr 2023
Os nad ydych wedi derbyn eich brechiad rhag y ffliw neu ddos atgyfnerthu’r hydref COVID-19 eto, rydym bellach yn cynnig apwyntiadau galw heibio ar gyfer pob grŵp cymwys yn ein dwy Ganolfan Brechu Torfol. Wrth fynychu ar gyfer eich brechiad rhag y ffliw, gallwch gael eich brechiad COVID-19 ar yr un pryd, heb fod angen ailymweld ar ddiwrnod arall.
Mae’r Canolfannau Brechu Torfol yng Nghaerdydd a’r Fro wedi’u lleoli yn Nhŷ Coetir, Caerdydd a Holm View, y Barri ac mae’r ddau safle ar agor rhwng 10am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
I gael gwybodaeth am gymhwysedd, ewch i'n tudalen Brechlyn rhag y Ffliw a COVID-19 neu darllenwch yma am fanylion ar sut i gyrraedd ein safleoedd brechu.