Os ydych ar ein rhestr aros ganolog ar gyfer deintydd GIG, ac nad ydych eto wedi ymateb i'r neges destun neu'r llythyr a anfonwyd ym mis Ionawr, byddwch yn derbyn neges destun gan GIG Cymru yr wythnos hon.
Er mwyn ein cefnogi i sicrhau bod y rhai sydd ar y rhestr aros yn dal i fod eisiau bod ar y rhestr, rydym yn gofyn i'r rhai nad ydynt eto wedi cadarnhau eu safle i wneud hynny, i ganiatáu i ni ddyrannu deintyddion y GIG i'r rhai sydd angen un mewn modd amserol.
Bydd y neges destun yn dod oddi wrth GIG Cymru a bydd yn gofyn i chi gadarnhau eich safle ar y rhestr aros. Byddwch wedi cael cod PIN unigryw y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi i'n porth GIG, ynghyd â'ch dyddiad geni i gadarnhau pwy ydych chi.
Os ydych yn dal i fod angen lle ar y rhestr ac yn dal i aros am ddeintydd y GIG, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y neges destun a dderbyniwyd a thiciwch 'Ydw'.
Os nad oes angen i chi gofrestru gyda deintydd y GIG mwyach neu os ydych eisoes wedi cael deintydd y GIG, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y neges destun a thiciwch 'Nac ydw'.
Mae’r neges destun, y ddolen a’r wybodaeth sydd wedi’u cynnwys yn y neges destun yn ddilys ac mae’r neges destun wedi’i hanfon atoch gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Bydd llythyr hefyd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cartref, yn amlinellu'r ffyrdd y gallwch ddilysu eich safle ar y rhestr aros. Bydd y llythyr yn cyrraedd cleifion tua wythnos neu ddwy ar ôl i'r neges destun gael ei hanfon.
Mae'n bwysig nodi, os na fyddwch yn dilysu'ch safle ar y rhestr aros, bydd eich enw'n cael ei dynnu i ffwrdd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, cysylltwch â Dental.Cav@wales.nhs.uk.