27 Mehefin 2024
Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Dr Sarah Harries, Anesthetydd Obstetreg a Thrawsblaniadau wedi ennill Medal y Coleg gan Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA).
Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion yw’r corff proffesiynol sy’n gyfrifol am yr arbenigedd ledled y DU ac mae’n sicrhau ansawdd gofal cleifion drwy ddiogelu safonau yn y tri arbenigedd, sef anesthesia, gofal dwys a meddygaeth poen.
Dyfernir Medal y Coleg i'r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad clir ac arwyddocaol i'r RCoA ac fel arfer mae'n gysylltiedig â phrosiect mawr diffiniedig. Derbyniodd Dr Harries ei medal yn bersonol yng nghyfarfod y Tiwtoriaid Coleg yn Llundain ddydd Gwener 14 Mehefin 2024 ar ôl i'r wobr gael ei chyhoeddi gyntaf y llynedd.
Dechreuodd Dr Sarah Harries ei gyrfa hir gydag Ysgol Anesthesia Cymru yn 2006 fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi ac arweinydd Recriwtio a daeth yn Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Hyfforddiant Craidd (2011-2014) ac Uwch (2011-2016). Yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi, bu Sarah yn allweddol wrth sefydlu 75 o swyddi arbenigol a hefyd 70 o swyddi penodol un flwyddyn yng Nghymru.
Roedd Sarah yn ganolog wrth arwain newidiadau sylweddol i hyfforddiant ac roedd bob amser yn cefnogi'r hyfforddeion yn gyntaf yn ystod yr amseroedd hyn. O ganlyniad i’w hethig gwaith anhygoel, ei hymrwymiad a’i natur gefnogol gwnaeth Ysgol Anesthesia Cymru lwyddo i newid yn hawdd o ddefnyddio’r Cofnod o Asesiadau Mewn Hyfforddiant i’r Adolygiad Blynyddol o Gynnydd Cymhwysedd.
Aeth ymlaen i gymryd rôl Cynghorydd Rhanbarthol Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (2017-2020), gan sefydlu cyfathrebu rhagorol â llywyddion RCoA trwy Fwrdd Cymru, ond hefyd â Llywodraeth Cymru. Cydnabu Sarah yn gynnar fod angen ehangu’r niferoedd sy’n hyfforddi yn wyneb heriau clir i’r gweithlu meddygol.
Yn ddiweddarach daeth Sarah yn Bennaeth Ysgol Anesthesia Cymru (2018-2023), yn sgil ei chyfoeth o brofiad mewn addysg a hyfforddiant, y mae llawer o hyfforddwyr a hyfforddeion wedi cael budd ohono.
Yn ystod y pandemig COVID, lle'r oedd angen addasu’n gyflym i gefnogi hyfforddwyr a hyfforddeion, gwnaeth arweinyddiaeth Sarah sicrhau fod ffyrdd arloesol o weithio yn cael eu sefydlu'n gyflym ac yn cael eu defnyddio fel glasbrint ar gyfer llawer o raglenni hyfforddi eraill ledled Cymru.
Mae Sarah wedi bod yn allweddol wrth sefydlu Anesthesia fel rhaglen hyfforddi o ansawdd uchel a gydnabyddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac fel arbenigedd allweddol ar lefel Llywodraeth Cymru.
Y tu allan i’w gwaith gydag Ysgol Anesthesia Cymru, mae Sarah yn aelod gwerthfawr iawn o adran anesthetig a thîm anesthetig obstetrig Caerdydd a’r Fro lle mae’n Arweinydd Anesthetig Obstetrig. Mae ei hangerdd yn y maes hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r maes clinigol ac mae’n un o gyd-olygyddion yr Oxford Specialist Handbook in Obstetric Anaesthesia.
"Mae’n anhygoel gweithio gyda Sarah; mae’n darparu hyder a chyfeiriad gydag eglurder," meddai Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol Llawfeddygaeth Abraham Theron am Dr Harries. “Mae ei harddull gynhwysol yn denu pobl i mewn ac yn caniatáu iddyn nhw gyflawni hyd eithaf eu gallu. I gynifer ohonom sy'n ymwneud ag Ysgol Anesthesia Cymru, mae Sarah yn ymgorffori hyfforddiant Anesthesia yng Nghymru."
Hoffem achub ar y cyfle hwn i longyfarch Sarah ar y cyflawniad hwn fel tyst i’r gwaith caled y mae wedi’i wneud i wella anesthesia yng Nghymru.