17 Mai 2024
Wrth i boblogaeth Caerdydd a’r Fro barhau i dyfu, mae’n dod yn bwysicach bod y Bwrdd Iechyd yn datblygu modelau gofal newydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n grymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn gyfrifol.
Mae Llunio ein Gwasanaethau Clinigol i’r Dyfodol yn ceisio datblygu modelau gwasanaeth newydd sy’n integreiddio gofal ac yn darparu canlyniadau sy’n arwyddocaol i’r unigolyn. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi nodi sawl llwybr clinigol i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Un o’r llwybrau hyn yw ein gwasanaethau pediatrig.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnal ymgysylltiad 8 wythnos ar ein gwasanaethau i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd. Hoffem wybod beth sy’n bwysig i chi am y gofal y mae pobl ifanc yn ei dderbyn a pham.
Rydym yn croesawu ymatebion gan bawb, p’un a oes ganddynt brofiad uniongyrchol neu os oes ganddynt farn ar yr hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol. P’un a ydych, neu wedi bod, yn glaf yn ein gwasanaethau plant a phobl ifanc neu’n rhiant neu’n warcheidwad i rywun sydd wedi bod, hoffem glywed gennych yn arbennig.
Wrth gwblhau’r arolwg hwn, meddyliwch am eich profiadau yn y gorffennol gyda’n gwasanaethau pediatrig, neu beth hoffech chi ei weld ganddyn nhw.
Bydd eich adborth yn helpu i ddylunio dyfodol ein gwasanaethau i fabanod, plant a phobl ifanc. Cymerwch amser heddiw i lenwi ein harolwg.