Neidio i'r prif gynnwy

Ailgylchwch eich hen frws dannedd gyda'n rhaglen ailgylchu

Rydym yn defnyddio ein brws dannedd ddwywaith y dydd a phan ddaw’r amser i brynu un newydd, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mynd i safleoedd tirlenwi ledled y DU. 

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn gweithio’n galed i leihau ein hôl troed amgylcheddol ac wedi lansio cynllun ailgylchu brwsys dannedd am ddim i’w gwneud yn haws i gael gwared ar wastraff deintyddol mewn ffordd ecogyfeillgar. 

Fel rhan o’n rhaglen, gallwch bellach ailgylchu eich hen frwsys dannedd a nwyddau iechyd y geg eraill trwy eu gollwng yn y blwch ailgylchu glas ym mhrif dderbynfa Ysbyty Deintyddol y Brifysgol. 

Rydym yn croesawu’r eitemau canlynol:

  • Brwsys dannedd â llaw 

  • Pen a gorchudd brwsys dannedd trydan 

  • Edau ddannedd a brwsys rhwng y dannedd 

  • Cynwysyddion edau ddannedd 

Yn anffodus, ni allwn dderbyn: 

  • Brwsys dannedd sy’n defnyddio batris 

  • Dolenni brwsys dannedd trydan 

  • Pecynnu allanol 

  • Edau ddannedd 

  • Batris 

Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. I gael gwybodaeth i ymwelwyr, ewch i Ysbyty Deintyddol y Brifysgol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales) 

Dilynwch ni