18 Awst 2023
Mae 11 Awst 2023 yn nodi agoriad swyddogol dau glinig trawma arbenigol newydd ar gyfer cleifion oedolion a phediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).
Bydd y cyfleusterau pwrpasol sydd wedi'u lleoli yn Adain Glan-y-Llyn ac yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yn darparu gofal orthopedig, asgwrn cefn a thrawma cymhleth o ansawdd uchel i hyd at 35,000 o gleifion y flwyddyn.
Disgwylir i'r adleoli gael effaith gadarnhaol ar wella amseroedd aros ar gyfer cleifion trawma a bydd yn hwyluso llwybrau clinigol symlach. Mae hefyd yn nodi carreg filltir bwysig i Orthopedeg Ddewisol wrth i adran cleifion allanol Canolfan Orthopedig Caerdydd a’r Fro (CAVOC) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) ddychwelyd i gapasiti llawn i helpu i fynd i’r afael â’r rhestrau aros dewisol.
I anrhydeddu’r garreg filltir allweddol hon, gwnaeth cydweithwyr ac ymwelwyr ymuno â’r Prif Weithredwr Suzanne Rankin mewn seremoni arbennig i dorri’r rhuban a dadorchuddio’r plac.
Cafodd gwesteion a fynychodd y digwyddiad hefyd daith dywys o amgylch y cyfleusterau newydd gan y Cyfarwyddwr Clinigol, Khitish Mohanty a’r Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Trawma, Orthopedeg, yr Asgwrn Cefn a’r Fron, Antonio Riccioli.