Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn derbyn brechlynnau ffliw mewn clinigau galw heibio

18 Tachwedd 2024

Gwnaeth aelodau cymuned Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd warchod eu hunain rhag y ffliw mewn dau glinig brechu galw heibio arbennig.

Gwnaeth gweithwyr imiwneiddio proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymweld â safleoedd Shirenewton a Rover Way i frechu plant ac oedolion ddydd Mawrth, 29 Hydref.

Yn ystod y sesiynau, cafodd 18 o blant a phobl ifanc y brechlyn ffliw chwistrell trwynol, a gwnaeth tair menyw sy'n oedolion dderbyn y pigiadau ffliw. Roedd cyfle hefyd i staff dderbyn eu brechiadau ffliw eu hunain.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: "Diolch yn fawr iawn i bawb sy'n gysylltiedig â'r clinigau galw heibio hyn. Bu'r timau'n ymgysylltu â llawer o deuluoedd gan dderbyn adborth cadarnhaol drwy gydol y dydd.

"Rwy'n annog pob person cymwys i gael eu brechiadau gaeaf i amddiffyn eu hunain a'r rhai o'u cwmpas. Bydd hefyd yn chwarae rhan enfawr wrth leihau'r pwysau ar ddrws ffrynt ein hysbytai."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi'r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac mae wedi bod yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i ddarparu mynediad at ofal iechyd a chyngor i breswylwyr.

"Rydym yn falch o lwyddiant digwyddiadau imiwneiddio diweddar sydd wedi cynnwys brechlyn MMR, profion a brechiadau COVID-19, brechlynnau ffliw a HPV, ac rydym yn gweithio tuag at gynnal ffair iechyd yn y dyfodol agos i gefnogi aelodau'r gymuned ar ein safleoedd a reolir gan y cyngor yn y ddinas."

Lansiwyd Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol (WRVP) ar gyfer 2024/25 ym mis Medi, gyda'r nod o ddiogelu'r rhai sydd â'r risg fwyaf o niwed rhag y ffliw a COVID-19. 

Mae’r rhestr lawn o grwpiau cymwys ar gyfer y brechlyn rhag y ffliw rhad ac am ddim fel a ganlyn:

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2024   
  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)    
  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)     
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol     
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024)     
  • Menywod beichiog    
  • Gofalwyr sy’n 16 mlwydd oed ac yn hŷn   
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan     
  • Pobl ag anabledd dysgu    
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen    
  • Yr holl staff mewn cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid 

Bydd plant 2 a 3 oed yn cael eu brechlynnau yn bennaf mewn meddygfeydd, tra bydd plant cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd am eu rhai nhw yn yr ysgol.  

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad COVID-19 yn cynnwys: 

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)  
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn  
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2025)  
  • Gofalwyr di-dâl  
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen  
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn  

Gwahoddir pob person cymwys i dderbyn eu brechiadau COVID-19 a'r ffliw naill ai yn eu meddygfa, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol agosaf.  

Ar y cam hwn yn y rhaglen ni fyddwch yn gallu cerdded i mewn i glinig brechu cymunedol heb apwyntiad.   

I’r rhai sydd ag apwyntiadau, mae cyfeiriadau’r canolfannau brechu cymunedol fel a ganlyn: 

  • Hyb Trelái: Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái, CF5 5BQ  
  • Ysbyty’r Barri: Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH 
  • Canolfan Iechyd Butetown: Plas Iona, Butetown, CF10 5HW 
  • Ysbyty Rookwood: Heol y Tyllgoed, Llandaf, CF5 2YN 
  • Y Sblot: The Old Star Centre, 2 Heol y Sblot, y Sblot, Caerdydd, CF24 2BZ
  • Hyb Cymunedol Penarth  
  • Hyb Maelfa: Round Wood, Llanedeyrn, CF23 9PF 

Os yw pobl yn dymuno aildrefnu neu ganslo eu hapwyntiadau, gallant ffonio ein canolfan alwadau ar 02921 841234. Fel arall, gallant ganslo neu aildrefnu trwy ymateb i'r neges destun a dderbyniwyd ganddynt ar gyfer eu hapwyntiad.

Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau’r ffliw a COVID-19 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gwybodaeth am frechlynnau mewn fformatau hygyrch hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Dilynwch ni