Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu cardiaidd: Cefnogi taith Barry o lawdriniaeth y galon i parkrun

06 Chwefror 2025

Ddydd Sadwrn diwethaf 1af o Chwefror, ac yn ddechreuad perffaith i Fis y Galon, croesodd Barry linell derfyn ei parkrun cyntaf mewn 51 munud a 39 eiliad, sy’n amser trawiadol, gyda chefnogaeth y tîm Adsefydlu Cardiaidd.

Cefnogwyd Barry bob cam o'r parkrun 5km gan y Nyrsys Clinigol Arbenigol Adsefydlu Cardiaidd, Angie Melvin a Leanne Hughes, ynghyd â Grace, merch Leanne.

Fel rhan o'i adferiad, cwblhaodd Barry y Rhaglen Adsefydlu Cardiaidd yn ddiweddar - cynllun unigol o ymarfer corff, addysg, a chymorth seicolegol. Dan arweiniad tîm o Nyrsys Clinigol Arbenigol, Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol, nod y rhaglen yw gwella iechyd a lles y rhai sy'n gwella ar ôl digwyddiad cardiaidd, gan eu grymuso i ddychwelyd i fyw bywyd mor llawn â phosibl.

Dywedodd Angie: “Roedd Barry yn awyddus i barhau i wneud ymarfer corff pan ddaeth ei raglen Adsefydlu Cardiaidd i ben a gwneud parkrun. Roedd ei ymrwymiad i wella a dychwelyd i’w hobïau blaenorol mor fuan ar ôl cael llawdriniaeth yn rhagori ar ein disgwyliadau.”

Dywedodd Hannah Davies, Ffisiotherapydd o fewn y tîm Adsefydlu Cardiaidd: “Roedd yn foment falch i glywed ei fod wedi defnyddio’r holl sgiliau o osod ei gyflymder ei hun, defnyddio cyfradd curiad y galon ac ymdrech ganfyddedig, a ddysgwyd yn ystod ei Adferiad Cardiaidd i’w helpu i gwblhau’r cwrs mewn amser anhygoel.”

Ar hyn o bryd, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnal astudiaeth beilot ochr yn ochr â'r tîm Adsefydlu Cardiaidd, i annog y rhai sydd wedi bod drwy'r rhaglen i aros yn actif gyda parkruns.

Meddai Hannah: “Mae’r astudiaeth beilot yn codi ymwybyddiaeth o parkruns lleol, a manteision a phwysigrwydd Adsefydlu Cardiaidd parhaus a ffordd iach o fyw ar ôl rhyddhau. Bu problemau erioed gyda gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n parhau i wneud ymarfer corff ar ôl y rhaglen, ac un o'r rhain oedd y gost. Gan fod parkrun am ddim roeddem yn meddwl ei fod yn opsiwn da i'w gynnig i'n cleifion.

“Y nod yw amlygu bod parkrun yn amgylchedd diogel i gleifion gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff yn dilyn eu digwyddiad cardiaidd. Drwy '5k eich ffordd chi', gallant gerdded, loncian, neu redeg fel y teimlant y gallant, a gallwn eu helpu i adeiladu ar hyn yn ystod eu hadsefydliad cardiaidd. Gyda chefnogaeth y BHF, trefnwyr parkrun a’r tîm meddygol, gall cleifion deimlo’n hyderus y byddant yn derbyn gofal da.”

Ddydd Sadwrn yma, mae Barry yn anelu at wneud Parkrun Llanisien eto, y tro hwn i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, ochr yn ochr ag aelodau eraill o’r tîm yn cynnwys CNS Adsefydlu Cardiaidd Sophie Openshaw, Rachel Morgan a Ceri Meredith.

Dilynwch ni