Mae’r Adran Gofal Critigol (CCD) yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi cyflawni carreg filltir ryfeddol drwy gael achrediad Sicrwydd Ansawdd gan Gymdeithas Ecocardiograffeg Prydain o dan ei Fframwaith Ansawdd Ecocardiograffeg.
Mae ecocardiograffau yn chwarae rhan hanfodol mewn gofal critigol, gan eu bod yn helpu i sicrhau bod cleifion mwyaf sâl y Bwrdd Iechyd yn gallu cael gafael yn effeithiol ar ddull cywir o roi diagnosis ar gyfer cyflyrau penodol a’u monitro.
Er mwyn cyflawni'r achrediad hwn, sefydlodd y tîm Gofal Critigol safonau gofynnol ar gyfer adroddiadau ac adolygiadau cleifion, gan gynnal archwiliadau rheolaidd ac adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer gwelliant cydweithredol ynghyd â buddsoddi mewn offer a seilwaith i sicrhau cynaliadwyedd. Mae'r uned hefyd wedi cynyddu nifer y cydweithwyr sydd wedi'u hyfforddi mewn hyfedredd ecocardiograffeg o bump i 17, sef cynnydd o 240%.
Fel yr unig Uned Gofal Critigol yng Nghymru, ac un o ddim ond nifer fach yn y DU i gyflawni'r achrediad hwn, mae hyn yn dangos ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i'w gleifion, ond hefyd i ddatblygiad proffesiynol parhaus cydweithwyr clinigol.
Dywedodd Dr Chris Gough, Meddyg Ymgynghorol Gofal Dwys: “Mae’r achrediad hwn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled ein tîm cyfan o fewn Gofal Critigol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd clinigol cynnal ecocardiograffeg a’r hyn y mae’n ei olygu i’r gofal a ddarparwn i’n cleifion ac mae’r clod hwn yn sail i’n hymrwymiad i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n cleifion.”
Dywedodd Bex Parsons, Ecoffisiolegydd Clinigol Arweiniol ar gyfer Gofal Critigol: “Mae’r cyflawniad hwn yn anhygoel i Adran Gofal Critigol, sy’n gweithio’n wahanol iawn i glinig cleifion allanol. Rydym wedi gorfod dangos bod ein hymarfer y tu hwnt i ofal safonol mewn gwirionedd, a’n bod yn darparu gwasanaeth eithriadol i’n cleifion, ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi’i gyflawni.”
Mae Fframwaith Ansawdd Ecocardiograffeg Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain yn ddull cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar y claf o sicrhau ansawdd a gwella gwasanaethau'n barhaus.