Mae ysbyty mwyaf Cymru nawr yn defnyddio dyfeisiau electronig yn lle siartiau meddyginiaeth papur, a’r Uned Achosion Brys yw’r adran ddiweddaraf i ddechrau defnyddio'r system.
Gwnaeth Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) yng Nghaerdydd greu hanes drwy fod yr adran achosion brys gyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig (ePMA). Daeth y tîm yn yr uned achosion brys i afael â’r system newydd yn hawdd drwy ei defnyddio ar gyfer 721 o gleifion yn ystod y pythefnos cyntaf yn unig, sef 4,000 o feddyginiaethau a gafodd eu gweinyddu gan ddefnyddio'r system.
Dechreuodd staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddefnyddio'r ePMA ym mis Gorffennaf, a’r cleifion ar y wardiau arenneg a thrawsblaniadau oedd y cyntaf i ddefnyddio’r system. Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno gan dîm o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys cymorth gan adran Gofal Iechyd Digidol Cymru (DHCW) a Nervecentre (y sefydliad sy'n darparu'r feddalwedd).
Mae gan tua 4 o bob 10 ardal cleifion mewnol fynediad at y system newydd bellach, sy'n gwella nifer o brosesau ar gyfer staff ysbytai ac yn gwella diogelwch cleifion.
“Cyn ePMA rydym wedi bod ar siartiau cyffuriau papur. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser maith, ond roedd problemau weithiau. Er enghraifft, efallai na allwn ddarllen presgripsiwn yn iawn - oherwydd ysgrifen y meddygon, efallai eu bod yn ysgrifennu'n gyflym iawn, felly mae'n rhaid i ni ddod yn ôl at y meddyg i wirio beth sydd wedi'i ragnodi.” meddai Gladys, nyrs ar un o wardiau meddyginiaeth YAC.
Mae gan y feddalwedd Rhagnodi Electronig nodweddion diogelwch wedi'u hymgorffori sy'n gwneud y broses o ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol. Mae'r system yn monitro pryd y dylai meddyginiaethau gael eu gweinyddu a'r dos, mae ganddi rybuddion hefyd am alergeddau a rhyngweithiadau cyffuriau.
“Rwy’n ei chael hi’n hawdd ei defnyddio ac mae wir yn gwneud cyfathrebu rhwng nyrsys a meddygon, ac aelodau staff eraill, yn llawer haws.
Rydw i wedi addasu iddo dw i'n meddwl ... mae'n dda iawn!” meddai Gladys.
Mae'r broses gyflwyno yn rhan o bortffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol DHCW.
"Mae broses o weithredu'r system wedi mynd rhagddi'n eithriadol o dda. Fel tîm ePMA, rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn adborth mor gadarnhaol ac yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn, yn enwedig o ystyried y gwaith caled a ddangoswyd gan y tîm cyfan.
Hoffem estyn ein diolch diffuant i'n cydweithwyr yn BIPCAF am groesawu'r newid arwyddocaol hwn. Mae eu hamynedd, eu hyblygrwydd, a'u proffesiynoldeb wedi bod yn allweddol wrth wneud y newid hwn yn llwyddiant," meddai Rhodri Clyburn, Fferyllydd Arweiniol y prosiect.
Mae'r prosiect yn parhau i gael ei gyflwyno, a disgwylir i Ysbyty Athrofaol Llandochau gyflwyno’r system ym mis Ionawr. Mwy o wybodaeth am ePMA ar wefan Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.