Neidio i'r prif gynnwy

Active Soles: Sut mae gwisgo esgidiau ymarfer corff wedi rhoi hwb i iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl

30 Ionawr 2024

Ym mis Gorffennaf 2023, ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â’r mudiad ‘Active Soles’ drwy roi caniatâd i weithwyr wisgo esgidiau mwy cyfforddus, megis esgidiau ymarfer corff, yn y gwaith.

Ers ei lansio mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda llawer o gydweithwyr yn dewis cyfnewid eu hesgidiau traddodiadol am ddewisiadau mwy actif.

Nid yn unig y mae pobl wedi nodi gwelliannau yn eu hiechyd corfforol, ond hefyd gyda’u hiechyd meddwl, yn ogystal â hwb cyffredinol i forâl a chynhyrchiant tîm.

Mae’r newid diwylliannol hwn mewn dillad gwaith wedi’i groesawu ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd yn cefnogi Active Soles.

Dywedodd Ruth Jordan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwella, Gweithredu a Lledaenu yn BIP Caerdydd a’r Fro, fod gwisgo esgidiau ymarfer corff i’r gwaith wedi gwneud “gwahaniaeth aruthrol” i’w lles.

“Rwy’n ffisiotherapydd o ran fy nghefndir, felly roeddwn i wedi arfer bod ar fy nhraed drwy’r dydd, bob dydd yn cerdded miloedd o gamau. Yna cefais swydd arall yn sydyn a oedd yn golygu fy mod yn gaeth i’r ddesg,” esboniodd.

“Roeddwn i’n teimlo'n bwdlyd, yn flinedig ac yn magu gormod o bwysau. Roedd yn ofnadwy. Ond mae cael caniatâd i wisgo esgidiau ymarfer corff i’r gwaith wedi gwneud cymaint o wahaniaeth o ran bod yn fwy actif – ac mae fy nghyfrif camau wedi cynyddu i raddau helaeth.”

Dywedodd Ruth fod gweld uwch arweinwyr hefyd yn gwisgo esgidiau cyfforddus o amgylch y swyddfa wedi rhoi’r hyder i eraill wneud yr un peth.

“Rydyn ni nawr yn cynnal cyfarfodydd wrth gerdded, ac mae llawer o’n cyfarfodydd un-i-un yn digwydd tra’n symud o le i le. Mae wedi gwella’r amgylchedd gwaith,” meddai hi.

“Ac rydw i nawr yn gwneud mwy o deithio llesol. Os ydych chi’n gwisgo esgidiau anghyfforddus sy’n achosi pothelli, dydych chi ddim yn mynd i wneud llawer o gerdded. Ond nawr rwy’n dal y trên ac yn cerdded bron bob dydd i’r gwaith, ac rwy’n cerdded rhwng safleoedd [y bwrdd iechyd] sy’n golygu nad oes rhaid i mi yrru’r car a dod o hyd i rywle i barcio. Mae’n llawer gwell i’r amgylchedd.”

Dywedodd Jason Vowles, Swyddog Cyfathrebu Digidol y Bwrdd Iechyd, fod gwisgo esgidiau ymarfer corff wedi gwella ei daith cymudo hir i’r gwaith o ardal y Rhath yn aruthrol.

“Rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn ystod y dydd, ac rwy’n fwy tueddol o fynd am dro yn ystod fy egwyl cinio,” meddai. “Gan fod Active Soles yn ei le, mae pobl yn teimlo’n dawel eu meddwl bod gwisgo esgidiau ymarfer corff yn dderbyniol.

“Rwy’n bendant yn meddwl y dylai sefydliadau eraill ymuno. Mae eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd a gallaf weld mwy o bobl yn gwisgo esgidiau ymarfer corff i’r gwaith – dim ond cynnydd cadarnhaol sy’n deillio o hyd.”

Mae Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd newydd y Bwrdd Iechyd, wedi croesawu’r mudiad Active Soles yn llwyr ac wedi disgrifio’r ffordd y mae gwisgo esgidiau ymarfer corff wedi gwneud iddi deimlo’n fwy “sionc ac egnïol” drwy gydol y dydd.

“Rwy’n teimlo fod gen i gyfeiriad ac yn gwneud yn siŵr y gall pob diwrnod fod yn ddiwrnod actif,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod bod eistedd i lawr am gyfnodau hir o amser yn cynyddu eich risg o gyflyrau fel clefyd y galon, felly gall hyd yn oed codi a mynd am dro cyflym ym myd natur wneud gwahaniaeth mawr i fywydau bob dydd pobl.”

Cyflwynwyd Active Soles am y tro cyntaf ym Manceinion Fwyaf (a elwir yn ‘Greater Manchester Moving’) ac fe’i cefnogir gan ffigurau uchel eu proffil gan gynnwys y Maer, Andy Burnham. Ddydd Mercher, 31 Ionawr mae Active Soles yn cael ei ddathlu yng Nghaerdydd a’r Fro a Manceinion Fwyaf ar yr un pryd ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i ledaenu ac ehangu’r mudiad.

Ddydd Mercher 31 Ionawr, fe’ch gwahoddir i ymuno â’n dathliad #ActiveSoles a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael arnoch chi a’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

P’un a ydych wedi bod yn gefnogwr hirdymor, neu newydd ddysgu am #ActiveSoles, rydym yn gweithio ar sicrhau bod gan bawb y rhyddid i symud mwy yn ystod eu diwrnod gwaith.

Dyma ychydig o bethau y gallech eu gwneud ar y diwrnod:

  • Gwisgo eich #ActiveSoles
  • Siarad â chydweithwyr/rheolwyr/rhwydweithiau am effaith gadarnhaol #ActiveSoles
  • Rhannu eich stori #ActiveSoles ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Ail-bostio cynnwys #ActiveSoles ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol
  • Rhannu eich stori #ActiveSoles chi/eich sefydliad
  • Edrych ar becyn cymorth Gweithlu Actif GM Moving yma
  • Adolygu a diweddaru unrhyw bolisïau sefydliadol i rymuso staff i ymgorffori ‘symud mwy’ yn eu diwrnod gwaith
Dilynwch ni