20 Mai 2024
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn datblygu cynllun gweithlu strategol i recriwtio, ailhyfforddi, hyfforddi a thrawsnewid y gweithlu nyrsio yng Nghymru drwy ddarparu argymhellion ar gyfer gweithredu i fodloni’r galw presennol ac yn y dyfodol.
Mae ein hymgynghoriad ar weithredoedd y Cynllun Gweithlu Nyrsio Strategol yn fyw o ddydd Llun 13 Mai i ddydd Gwener 21 Mehefin.
Os ydych chi'n rhan o'r Gweithlu Nyrsio, mae angen i ni glywed gennych i gadarnhau beth sy'n gryf, ar goll neu'n anghywir gyda'r camau gweithredu drafft presennol. Rydym yn eich annog yn gryf i ddweud eich dweud ar y camau gweithredu arfaethedig drwy lenwi yr Ffurflen MS.
Mae’r Cynllun Gweithlu Nyrsio Strategol yn gynllun 10 mlynedd i gefnogi GIG Cymru: i recriwtio unigolion o safon uchel i’r proffesiwn, i hyfforddi mwy o nyrsys, i gadw ein gweithlu nyrsio ymroddedig ac i drawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn gweithio.
Nyrsys yw’r grŵp mwyaf o staff yn GIG Cymru ac maent yn cynrychioli tua 40% o’r gweithlu, yn gweithio ar draws ystod o arbenigeddau ac amgylcheddau gan gynnwys ysbytai a lleoliadau cymunedol. Ar draws GIG Cymru, mae pob sefydliad yn profi pwysau gwasanaeth digynsail, wedi’i gymhlethu gan heriau gweithlu.
Mae’r heriau sy’n wynebu’r proffesiwn nyrsio yn cynnwys.
Gyda'i gilydd, mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar recriwtio a chadw nyrsys, lles a gallant arwain at orweithio. Mae prinder a gorweithio yn arwain at lefelau straen uwch ymhlith nyrsys, gan arwain at lai o foddhad swydd a methu cyflawni anghenion cleifion.
Nod y cynllun yw datblygu atebion arloesol i drawsnewid y proffesiwn nyrsio er mwyn sicrhau gweithlu addas i fodloni gofynion y gwasanaeth a’r gweithlu yn y dyfodol.
Dysgwch mwy: Cynllun gweithlu nyrsio strategol - AaGIC (gig.cymru)