18 Medi 2025
Mae mis Medi yn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Ganser Gynaecolegol ac mae'r Tîm Oncoleg Gynaecoleg yn rhannu rhai o'r arwyddion a symptomau allweddol i edrych amdanynt, yn ogystal â rhai camau ymarferol y gallwch eu cymryd i leihau'r risg.
Gall canser gynaecolegol fod ar sawl ffurf; ceg y groth, yr ofari, y groth / endometriwm, y fwlfa a'r fagina. Mae Tîm Oncoleg Gynaecoleg yng Nghaerdydd a’r Fro yn annog unrhyw un sy’n profi symptomau anarferol i ofyn i’w hunain, a’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, “a allai hyn fod yn ganser?”
Canser y Groth, a elwir hefyd yn Ganser yr Endometriwm, yw'r canser gynaecolegol mwyaf cyffredin.
“Prif symptom Canser y Groth i edrych amdano yw gwaedu annormal ar ôl y menopos. Os byddwch chi'n sylwi ar hyn, byddem yn eich annog i geisio cymorth gan eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl. “Gall ymyrraeth gynnar wneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant eich triniaeth,” meddai Lynne, Nyrs Arbenigol Oncoleg Gynaecoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae ymyrraeth gynnar yr un mor bwysig mewn perthynas â thrin Canser yr Ofari, ond yn aml mae diagnosis yn digwydd yn rhy hwyr ac ar gam datblygedig.
Dywedodd Yogee, Meddyg Oncoleg Gynaecoleg: “gall symptomau Canser yr Ofari gynnwys bol wedi chwyddo’n barhaus, teimlo’n llawn yn gyflym neu ddim chwant bwyd, poen yn rhan isaf eich bol neu ardal y pelfis a’r angen i wneud pi-pi’n amlach neu ar frys.”
“Os yw’r symptomau hyn yn newydd, os ydynt yn aml ac yn barhaus, yna mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei godi gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.”
Dywedodd Adam, Meddyg Oncoleg Gynaecoleg: “Os ydych chi’n pryderu, rhestrwch eich symptomau i’ch meddyg teulu a gofynnwch iddyn nhw ‘a allai hyn fod yn Ganser yr Ofari?’ Rydych chi'n adnabod eich corff ac yn gwybod pryd nad yw rhywbeth yn iawn, peidiwch ag ofni siarad amdano."
Er bod oedran a geneteg yn chwarae rhan fawr yn natblygiad canserau gynaecolegol, mae yna rai pethau ymarferol y gallwch chi eu gwneud i gyfyngu ar y risg.
“Mae gordewdra yn un o’r ffactorau risg allweddol sy’n gysylltiedig â chanser y groth” meddai Rhian, Nyrs Arbenigol Oncoleg Gynaecoleg. “Mae celloedd braster yn cynhyrchu’r hormon Estrogen, sy’n gysylltiedig â’r math hwn o ganser, felly un o’r ffyrdd allweddol y gallwch leihau eich risg yw cynnal pwysau iach.”
I gael gwybod mwy am sut allwch chi gynnal pwysau iach, ewch i https://keepingmewell.com/.
Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn mynychu profion sgrinio serfigol neu brofion ‘smear' sy'n profi am HPV (feirws papiloma dynol). Mae Sadie Jones, Llawfeddyg Oncoleg Gynaecoleg, yn egluro: “er nad yw pob canser ceg y groth yn cael ei achosi gan HPV, mae'r rhan fwyaf yn cael eu hachosi ganddo, felly mae'n bwysig blaenoriaethu eich apwyntiadau sgrinio serfigol.
Mae profion sgrinio serfigol yn ymyrraeth gyflym a hawdd a allai achub eich bywyd a/neu fod o fudd mawr i'ch iechyd yn y dyfodol.
Dywedodd y Nyrs Colposgopeg Laura: “mae’r nifer sy’n cael profion sgrinio serfigol wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ymhlith pobl 30–40 oed, pan fo sgrinio’n hanfodol. Plîs, plîs rhowch flaenoriaethwch i brofion sgrinio serfigol!
Am ragor o wybodaeth am Sgrinio Serfigol, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin: Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol | Ateb eich cwestiynau
Cam arall y gall pobl ei gymryd i leihau'r risg yw cael y brechiad HPV. Gall y brechlyn atal amrywiaeth o ganserau gwahanol (gan gynnwys canserau ceg y groth, y fagina a'r fwlfa) ac mae’n fwyaf effeithiol pan gaiff ei gynnig yn ystod y glasoed felly fe'i cynigir yn gyntaf i ddisgyblion ysgol uwchradd.
“Mae cyflwyno’r brechiad HPV wedi gweld gostyngiadau sylweddol yng nghanser ceg y groth. Byddem yn argymell bod rhieni’n annog eu plant i gael y brechlyn hwn ac i ddal i fyny â'r brechlyn os ydych chi wedi'i golli.” Mae rhagor o fanylion am y brechlyn HPV a'r cymhwysedd i'w cael yma: Brechlyn HPV - Iechyd Cyhoeddus Cymru.