Mae teimlo dan straen yn rhan arferol o fywyd a gall ein helpu i'n hysgogi i gyflawni ein nodau. Ond os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi â straen, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.
Gofalu amdanoch chi'ch hun
Gall straen ei gwneud hi'n anoddach gwneud pethau, ond gall cael digon o gwsg, cadw'n gorfforol egnïol a bwyta deiet cytbwys i gyd wneud straen yn haws i'w reoli. Am fwy o wybodaeth am fyw'n dda, cliciwch yma.
Ymarfer corff
Mae ymarfer corff yn rhyddhau endorffinau i wneud i chi deimlo'n dda ac yn lleihau hormonau straen sydd gyda'i gilydd yn helpu i hybu ein hwyliau. Efallai na fydd yn gwneud i'ch straen ddiflannu'n llwyr, ond gallai hyd yn oed mynd am dro byr eich helpu i glirio'ch meddwl, cael ymdeimlad o reolaeth a gwella'ch lles meddyliol.
Meithrin eich hun
Peidiwch â defnyddio ysmygu, yfed alcohol neu gaffein fel ffyrdd o ymdopi â straen. Yn hytrach nag estyn am alcohol neu fwyd cysur afiach, coginiwch bryd blasus i’ch hun yn llawn bwydydd iach megis llysiau gwyrdd deiliog, grawn a phrotein. Yfwch ddigon o ddŵr hefyd.
Nodi eich sbardunau
Nodwch beth sy'n achosi i chi deimlo dan straen. Hyd yn oed os na allwch osgoi'r sefyllfaoedd hyn, gall gwybod beth yw eich sbardunau eich helpu i deimlo'n barod a gallai ei gwneud yn haws estyn allan am gymorth.
Mynd i'r afael â straen gyda'n gilydd
Gall siarad ag aelod o’r teulu, ffrind neu gydweithiwr wneud gwahaniaeth - hyd yn oed os ydych ond angen iddynt wrando arnoch. Os oes well gennych siarad â dieithryn, ffoniwch elusen fel @MindCharity neu @theCALMzone.
Dewch o hyd i amser i ymlacio
Rydym yn brysurach nag erioed o'r blaen ac weithiau gallai deimlo fel nad oes digon o oriau yn y dydd. Ond mae'n bwysig neilltuo amser i fagu nerth a chael rhywfaint o 'amser i chi’ch hunan’ p’un a yw hynny’n golygu gwneud gweithgaredd rydych chi'n ei fwynhau neu ddim ond pum munud o heddwch a thawelwch.
Mynegwch eich hun
Gall bod yn greadigol helpu i ryddhau emosiynau negyddol ac mae llawer o ffyrdd y gallwch wneud hyn. Beth am roi cynnig ar beintio, ysgrifennu, chwarae offeryn cerdd neu bobi? Bydd rhoi cynnig ar bethau gwahanol yn eich helpu i ddarganfod beth sy'n addas i chi, a’ch ysgogi i deimlo cyffro am fywyd.
Ymgolli mewn byd natur
Gallai treulio amser yn sylwi ar gân yr adar a choed yn blodeuo godi ein hysbryd a’n hatgoffa o ba mor hardd y gall y byd fod. Gallech hefyd roi cynnig ar ofalu am blanhigion dan do neu dreulio amser gydag anifeiliaid.
Ceisiwch fod yn bositif
Ysgrifennwch restr o bethau positif rydych chi'n ddiolchgar amdanynt. Weithiau gall fod yn hawdd anghofio'r pethau positif mewn bywyd a chanolbwyntio gormod ar y negyddol.
SilverCloud
Os oes angen mwy o arweiniad arnoch ar reoli straen, mae rhaglenni hunangymorth dan arweiniad ar-lein rhad ac am ddim SilverCloud ar gael ledled Cymru.
Yn ogystal â chynnig rhaglenni i gefnogi ystod o gyflyrau megis straen, gorbryder ac iselder, mae rhaglenni gwahanol wedi'u cynllunio ar gyfer rhieni sydd am gefnogi plentyn, pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed ac oedolion.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Stepiau
Mae Stepiau yn wasanaeth a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae'r wefan yn cynnwys llawer o adnoddau hunangymorth yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau mynediad agored a grwpiau mynediad lleol.
Os oes angen cefnogaeth ychwanegol arnoch i reoli straen, mae Stepiau yn cynnal cwrs Rheoli Straen 6 wythnos.
Mae'r cwrs Rheoli Straen wedi'i gynllunio i helpu pobl i ddysgu i reoli eu straen yn well. Bob wythnos, byddwch yn dysgu ffyrdd newydd o reoli straen. Wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r rhain gyda'i gilydd. Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych becyn cymorth y byddwch yn gallu ei roi ar waith.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.