Neidio i'r prif gynnwy

14 Mawrth 2025 | Diwrnod Cenedlaethol Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser

Photo collage of Cancer Clinical Nurse Specialists Rhian, Hannah, Lynne, Sara, , Helen, Sharon and Anwen for National Cancer Clinical Nurse Specialist Day

14 Mawrth 2025

Dydd Gwener 14 Mawrth yw Diwrnod Cenedlaethol CNS (Nyrsys Clinigol Arbenigol) Canser. Mae’n gyfle i ddathlu’r Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser hynod fedrus sy’n gweithio o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae yna 75 o Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser o fewn y Bwrdd Iechyd, ac mae pob un ohonynt yn darparu gofal a chymorth arbenigol i gleifion, a'u teuluoedd, drwy gydol eu taith canser.

Dywedodd Jason Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio: "Diolch i’r holl Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am y cymorth ymarferol, corfforol ac emosiynol y maent yn ei ddarparu, a’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau pobl y mae canser yn effeithio arnynt."

Wrth siarad am yr hyn sy'n gwneud y rôl yn un gwerth chweil, Dywedodd Anwen Nicholas, CNS Canser y Croen Macmillan: “Fel CNS Macmillan rydw i'n eiriolwr dros fy nghleifion. Mae’n werth chweil gallu cynnig y cymorth sydd ei angen arnynt i’w helpu drwy eu taith canser.”

Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser yn arbenigwyr mewn gofal canser ac yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu cleifion i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae’r CNS yn cynorthwyo’r claf i wneud penderfyniadau ar ei lwybr canser, gan ddarparu gwybodaeth ac eglurder, gwrando ar bryderon cleifion a’u cyfeirio at gymorth a gwasanaethau eraill.

Dywedodd Hannah Belcher, Nyrs Glinigol Arbenigol Arweiniol ar gyfer Myeloma, math o ganser mêr esgyrn: “Rwyf wrth fy modd â’r gorgyffwrdd rhwng y wyddoniaeth yn gwylio triniaethau newydd yn cael eu datblygu a’u rhyddhau, a’r gofal holistaidd - gan alluogi fy nghleifion i gael ansawdd bywyd da trwy gydol eu triniaeth.”

Dywedodd Sharon Hulley, CNS Clinig Diagnosis Cyflym Macmillan: “Mae bod yn CNS Macmillan wedi fy ngalluogi i gefnogi cleifion a’u teuluoedd ar adeg pan maen nhw fwyaf agored i niwed a’u helpu trwy rai o adegau gwaethaf eu bywydau, sy’n fraint.”

Wrth siarad am ei rôl, dywedodd Rebecca Griffiths, Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Acíwt: “Gall mynd i’r ysbyty pan fydd gennych ddiagnosis canser hysbys, yn cael triniaeth canser neu’n derbyn diagnosis canser newydd fod yn gyfnod anodd a brawychus i gleifion. Mae cydweithio â thimau trin wardiau a chefnogi cleifion a’u teuluoedd yn rhoi boddhad mawr”.

Mae llawer o'r gweithlu Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser yn brofiadol iawn. Mae Sara, Lynne a Rhian yn tair CNS Oncoleg Gynaecolegol sydd â 79 mlynedd o brofiad nyrsio rhyngddynt. 

Dywedodd Sara: “Rydym yn teimlo bod ein rôl yn hanfodol wrth ddarparu gofal holistaidd i’n cleifion trwy gydol eu taith gyda ni. Mae rôl nyrsys arbenigol mewn gofal oncoleg wedi bod yn gadarnhaol i gleifion a pherthnasau; gan ddarparu’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen i leihau pryderon a rhoi’r profiad gorau mewn cyfnod mor bryderus.”

Mae Rhian wedi bod yn CNS Gofal Lliniarol Macmillan ers bron i 18 mlynedd. Dywedodd: “Mae’r rôl hon wedi fy ngalluogi i gefnogi cleifion a’u teuluoedd ar yr amser anoddaf.

“Pan fydd person yn cyrraedd camau olaf eu bywyd, dim ond un cyfle sydd gennym i wneud pethau'n iawn. Mae pawb yn haeddu hynny. Rwy’n gweld nyrsio mewn gofal lliniarol yn rôl freintiedig iawn ac rwy’n teimlo’n angerddol iawn am y cymorth a’r gofal rwy’n eu darparu. Rwy’n caru fy swydd.”

Dilynwch ni