Rydym i gyd yn gwybod y gall smygu gael effaith ddinistriol ar ein hysgyfaint. Nid yn unig y mae sigaréts tybaco yn llidio’r organau, maent hefyd yn dinistrio meinwe’r ysgyfaint a’r blew bregus, tebyg i frwsh o’r enw cilia sy’n eu cadw’n lân.
Ond nid yr ysgyfaint a’n hanadlu yn unig sy’n cael eu niweidio gan smygu. Mae effaith ar lawer o rannau eraill o’r corff hefyd - efallai y bydd rhai ohonynt yn eich synnu. Yma, rydym wedi tynnu sylw at 10 ffordd y mae smygu’n effeithio’n negyddol ar y corff (ochr yn ochr ag iechyd gwael yr ysgyfaint):
O achosi dannedd melyn â staen tar ac anadl drewllyd, i gynyddu’r risg o glefyd y deintgig a cholli dannedd, nid yw smygu a tybaco yn dda i iechyd deintyddol ac iechyd y geg. Mae’n un o brif achosion canserau’r geg sy’n cynnwys gwefusau, tafod, bochau a gwddf.
Mae smygu yn lleihau faint o ocsigen a fitaminau sy’n cyrraedd y croen, gan achosi heneiddio cynnar a chrychau, yn enwedig o amgylch y gwefusau a’r geg. Yn ogystal ag edrych yn hŷn yn gynt, gall smygu hefyd fod yn sbardun i’r cyflwr psoriasis, sy’n gwneud i’r croen gosi, ac ar gyfer acne ymhlith pobl hŷn.
Mae llif y gwaed o amgylch y corff yn cael ei leihau a’i gyfyngu gan smygu a all arwain at ddiffyg ymgodol (a allai fod yn barhaol). Gall smygwyr brofi colli libido (llai o ysfa rywiol), gall eu cyfrif sberm, siâp a’u symudedd gael eu heffeithio’n negyddol ac mae ganddynt risg uwch o brofi problemau ffrwythlondeb.
Mae smygwyr mewn mwy o berygl o brofi poen mislif a symptomau menopos mwy difrifol. Gall y menopos ddigwydd un i bedair blynedd ynghynt oherwydd gall smygu leihau cynhyrchiant wyau a lefelau estrogen. Mae smygwyr hefyd yn fwy tebygol o brofi colli libido (llai o ysfa rywiol) a phroblemau ffrwythlondeb. Mae smygu yn cynyddu’r risg o ganser yr ofari yn ogystal â’r risg o ganser ceg y groth i fenywod sydd wedi’u heintio â HPV.
Mae’r defnydd o dybaco a chynhyrchion nicotin yn cynyddu’r risg o glefyd cardiofasgwlaidd sy’n un o brif achosion marwolaeth ac anabledd yn y DU. Gall smygu niweidio’r rhydwelïau a chulhau pibellau gwaed y galon. Gall achosi i blac gronni, clotiau gwaed a llif gwaed cyfyngedig a all arwain yn y pen draw at drawiad ar y galon a strôc.
Mae smygu yn cynyddu’r risg o lawer o glefydau llygaid a phroblemau golwg. Mae’r rhain yn cynnwys cataractau, lle mae’r lens yn datblygu smotiau cymylog, a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran a all wneud gweithgareddau bob dydd fel darllen ac adnabod wynebau yn anoddach.
Mae smygu yn ffactor risg ar gyfer dementia, grŵp o anhwylderau sy’n arwain at ddirywiad yng ngweithrediad yr ymennydd. Mae dementia yn effeithio ar y cof, yn ogystal â’r ffordd y mae person yn siarad, yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.
Mae’n chwedl gyffredin bod smygu’n helpu pobl i ymlacio. Pan nad yw smygwyr wedi cael sigarét ers tro, gall dyheu i gael un wneud iddynt deimlo’n bryderus neu dan straen, a gall smygu un leihau’r teimladau hynny dros dro. Fodd bynnag, yn aml effeithiau smygu sy’n ychwanegu at y teimladau negyddol hyn yn y lle cyntaf wrth i smygu gynyddu pryder, tensiwn, straen ac iselder. Profwyd bod rhoi’r gorau i smygu yn hybu hwyliau ac yn gwella iechyd meddwl a lles.
Mae sigaréts yn cynnwys dros 5,000 o gemegau ac mae’n hysbys bod o leiaf 70 o’r rhain yn achosi canser. Mewn gwirionedd, smygu yw’r achos mwyaf o ganser ledled y byd. Po fwyaf o sigaréts rydych chi’n smygu, a’r hiraf y byddwch chi’n smygu, y mwyaf yw eich risg o ganser. Ar ôl eu hanadlu, mae’r cemegau yn niweidio DNA ac mae hyn yn cynyddu’r risg o lawer o wahanol fathau o ganserau, gan gynnwys lewcemia a chanser y stumog, yr afu, y pancreas, yr aren, y bledren a’r coluddyn.
Mae smygu yn ffactor risg ar gyfer diabetes math 2. Mae nicotin yn newid celloedd fel nad ydyn nhw’n ymateb i inswlin, sy’n cynyddu lefelau siwgr yn y gwaed. Mae cemegau mewn sigaréts yn niweidio celloedd yn eich corff ac yn achosi llid. Mae hyn hefyd yn gwneud i gelloedd stopio ymateb i inswlin. Yn fwy na hynny, mae gan bobl sy’n smygu risg uwch o fraster o amgylch y bol, sy’n cynyddu’r risg o gael diabetes math 2 hyd yn oed os nad ydyn nhw dros bwysau.
Y mis hwn nodir Stoptober, ymgyrch genedlaethol gan Ash Cymru sy’n annog smygwyr i ddechrau ar eu taith i roi’r gorau iddi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch yma.
Dyw hi byth yn rhy hwyr i roi’r gorau i smygu. I gael rhestr lawn o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn lleol, ac i gael gwybod a oes angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw, cysylltwch â thîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio drwy:
Gall smygwyr hefyd gael eu hatgyfeirio at Helpa Fi i Stopio gan eu meddyg teulu neu nyrs practis, neu os ydynt yn cael eu hunain yn yr ysbyty gallant gael mynediad at wasanaethau a chynhyrchion ar y safle cyn cael eu trosglwyddo yn ôl i’r gymuned. Mae rhai fferyllfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnig cyngor a chynhyrchion Helpa Fi i Stopio.