Neithiwr, cafodd ein staff nyrsio a bydwreigiaeth eu cydnabod a’u canmol am eu gwaith anhygoel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2021.
Mae’r digwyddiad gwerthfawr blynyddol hwn yn dathlu cyflawniadau rhagorol nyrsys a bydwragedd ar draws Cymru ar yn cydnabod eu dylanwad cadarnhaol ar ymarfer nyrsio/bydwreigiaeth a’r gofal maent yn ei ddarparu i unigolion a chymunedau.
Eleni, cafodd un o’n cydweithwyr, Kirsty John, ei chydnabod fel Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2021. Derbyniodd Kirsty gydnabyddiaeth arbennig am ei gwaith gyda chydweithwyr yng Ngharchar EM Caerdydd yn arwain y system brofi ar gyfer yr holl ddynion sy’n cyrraedd y ddalfa a chreu canolfan frechu o fewn y carchar.
Yn ogystal â gweld y prif enillydd yn dod o BIP Caerdydd a’r Fro, gwelsom hefyd gyfanswm o bump o wobrau yn cael eu rhoi i’n cydweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth o fewn saith categori.
Dywedodd Ruth Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, “Llongyfarchiadau enfawr i Katherine, Sarah, Paula, Abigail, Emily, Kirsty, Emma a Laura am ddangos y cyfraniad anhygoel maen nhw ei wneud i’r proffesiwn nyrsio a bydwreigiaeth yma yng Nghymru a’r fantais i’n cleifion, dinasyddion a’n cymunedau. Roedd yn bleser gweld eich gwaith yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol neithiwr.
“Mae pob gwobr neu enwebiad yn gwbl haeddiannol ac yn dangos faint o nyrsys a bydwragedd ymroddedig a thalentog unigryw sydd gennym yn BIP Caerdydd a’r Fro.
“Ar ôl blwyddyn anodd, mae’n wych gweld ein nyrsys a’n bydwragedd gweithgar yn cael eu cydnabod am eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn gofalu am ein cleifion. Mae’n anhygoel gweld sut rydych wedi parhau i arwain, cymell ac arloesi o fewn eich amgylcheddau clinigol i wella canlyniadau i gleifion. Diolch yn fawr”
Cafodd Kirsty ei llongyfarch gan Gyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Helen Whyley, a dywedodd “Mae Kirsty yn ymrwymedig i sicrhau lefelau uchel o ofal ag urddas i’r grŵp hwn. Mae hi’n ddynes i’w hedmygu ac yn enillydd teilwng o Wobr Nyrs y Flwyddyn Cymru 2021”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl enillwyr yma.
12/11/2021