12 Gorffennaf 2022
Mae wyth fferyllfa ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg bellach yn cynnig gwasanaeth dulliau atal cenhedlu drwy’r geg i unigolion ei ddefnyddio naill ai’n annibynnol, neu drwy atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae’r bilsen atal cenhedlu drwy’r geg, sy’n fath o feddyginiaeth a gymerir gan unigolion i atal beichiogrwydd, bellach ar gael mewn rhai fferyllfeydd yng Nghaerdydd a’r Fro heb fod angen gweld meddyg teulu.
Yr wyth fferyllfa sy’n cynnig y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd yw:
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth yn y fferyllfeydd a restrir uchod, gallwch ffonio’r fferyllfa ymlaen llaw, neu alw heibio i wneud apwyntiad.
Yn ystod yr apwyntiad, byddwch yn cael ymgynghoriad cyfrinachol gyda fferyllydd rhagnodi a all fod trwy ymgynghoriad fideo neu wyneb yn wyneb yn y fferyllfa.
Efallai y gofynnir i chi am rai manylion ychwanegol cyn i'r presgripsiwn gael ei roi, gallai hyn gynnwys cymryd pwysedd gwaed.
Wrth i’n gwasanaethau barhau i ddatblygu a bod mwy o fferyllfeydd yn cynnig y gwasanaethau hyn, byddwn yn parhau i ddiweddaru ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gyda gwybodaeth bellach.
*Sylwer, ni ddylid camgymryd y gwasanaeth dulliau atal cenhedlu drwy’r geg â'r gwasanaeth atal cenhedlu brys. Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael ym mron pob fferyllfa ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â dulliau atal cenhedlu y gellir eu prynu dros y cownter fel condomau.