28 Chwefror 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi profi galw cynyddol am ein gwasanaethau gofal brys a gofal heb ei drefnu dros y 48 awr ddiwethaf, sy’n arwain at arosiadau hirach nag yr hoffem yn ein Hadran Achosion Brys ac yn cael effaith ar wasanaethau eraill.
I’n helpu ni i’ch helpu chi, defnyddiwch y gwasanaethau’n briodol fel y gall ein timau ddarparu gofal i’r cleifion hynny sydd ein hangen fwyaf.
Ffoniwch 999 neu ewch i’r Uned Achosion Brys os yw’n achos sy’n bygwth bywyd yn unig. Os ydych yn credu ei fod yn fater brys, ffoniwch GIG 111 Cymru ac, os yw’n briodol, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl i gynnig amser yn y lleoliad gofal iechyd priodol os oes angen i chi gael eich gweld.
Gallwch hefyd gael help a chyngor ar GIG 111 Cymru ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o afiechydon.
Gall eich Fferyllfa Gymunedol hefyd roi cyngor a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer y rhan fwyaf o fân anhwylderau a pheidiwch ag anghofio y dylai eich Optometrydd fod yn ddewis sylfaenol i chi ar gyfer unrhyw bryderon gofal llygaid.
Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a thrwy ddewis y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’r gwasanaeth cywir ar gyfer eich anghenion, gallwch ein helpu i ddarparu gofal a thriniaeth mewn modd amserol.