Darllenwch y newyddion diweddaraf am y gwobrau a'r enwebiadau mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'n staff wedi'u derbyn.
Ddydd Mawrth 17 Rhagfyr dathlwyd pedwar Therapydd Galwedigaethol o wasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymru Thinkedi 2024.
Cafodd Madelaine Watkins, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Seicosis mewn Oedolion Hŷn, ei henwi'n Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2024 mewn seremoni ddydd Iau diwethaf (21 Tachwedd).
Fis diwethaf cafodd y tîm Gofal Cefnogol eu cydnabod yng Ngwobrau GIG Cymru 2024. Wrth ennill Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Syr Mansel Aylward, cydnabuwyd y tîm am eu gwaith yn rhoi cleifion wrth wraidd penderfyniadau, gwasanaethau, a’u gofal eu hunain.
Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dathlu ar ôl ennill yng Ngwobrau GIG Cymru 2024. Cyhoeddwyd y gwobrau mewn seremoni ddydd Iau 24 Hydref.
Mae cleifion, cydweithwyr a gwirfoddolwyr yn Nhai Ffordd y Parc Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio i drawsnewid darn o dir segur yn ardd therapiwtig ffyniannus, ac wedi’u gosod yn yr ail safle i dderbyn Gwobr Prosiectau Mannau Gwyrdd Cydweithredol yng Ngwobrau Coedwig y GIG ar 4 Hydref.
Mae Rhian Greenslade, Nyrs Cyswllt Rhyddhau i Blant ag Anghenion Iechyd Cymhleth WellChild yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, wedi’i henwi’n enillydd yng ngwobrau cenedlaethol mawreddog WellChild 2024.
Mae Caroline Trezise, Nyrs Glinigol Arbenigol y Colon a’r Rhefr, wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith ‘eithriadol’ gyda chleifion canser y coluddyn.
Dyfernir Medal y Coleg i'r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad clir ac arwyddocaol i'r RCoA ac fel arfer mae'n gysylltiedig â phrosiect mawr diffiniedig. Derbyniodd Dr Harries ei medal yn bersonol yng nghyfarfod y Tiwtoriaid Coleg yn Llundain ddydd Gwener 14 Mehefin 2024 ar ôl i'r wobr gael ei chyhoeddi gyntaf y llynedd.