Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bresenoldeb corfforaethol ar wefannau cyfryngau cymdeithasol Twitter, Facebook, Instagram, TikTok, LinkedIn a YouTube i gyfathrebu â chleifion, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Mae'r wybodaeth hon yn esbonio sut rydym yn rheoli'r cyfrifon hyn ac yn rhoi cyngor i ddilynwyr sy'n dymuno siarad â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth hon o bryd i'w gilydd ac yn atgoffa dilynwyr yn ôl yr angen.
Rheolir y cyfrifon corfforaethol hyn gan aelodau o'r tîm Cyfathrebu. Mae trydariadau, postiadau, diweddariadau statws ac ymatebion ar ran y Bwrdd Iechyd ac ni ddylid eu dehongli fel ymatebion/negeseuon personol gan unigolion.
Byddwn yn ceisio ymateb yn gyflym i gwestiynau ac ymholiadau a godir drwy'r fforymau hyn, fodd bynnag, ni allwn gynnig cyngor clinigol ac oherwydd y gofyniad i gynnal cyfrinachedd cleifion, ni allwn drafod achosion unigol ar gyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych bryder byddwn yn gofyn i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy neges uniongyrchol neu breifat fel y gallwn drafod hyn gyda'r adrannau perthnasol, neu byddwn yn eich cyfeirio at ein tîm pryderon.
Nodwch os yw eich enw defnyddiwr yn cynnwys rheg yna ni fyddwn yn gallu ymateb i chi na rhannu rhywbeth rydych wedi gofyn i ni ei wneud.
Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro'n bennaf yn ystod oriau swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydym yn derbyn llawer o sylwadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac ni allwn addo ymateb i bopeth a dderbyniwn. Os yw eich ymholiad yn ddifrifol, yn frys, yn fanwl neu'n cynnwys manylion personol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'n switsfwrdd ar 02920 747747.
Peidiwch â digio os na fyddwn yn eich dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae angen i ni gadw nifer y bobl yr ydym yn eu dilyn i lefel sy’n hawdd ei rheoli, er mwyn ein helpu i nodi cynnwys pwysig neu ddefnyddiol i'w rannu gyda chi.
Weithiau byddwn yn dilyn cyfrifon sy'n darparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'n gwaith fel Bwrdd Iechyd, (er enghraifft cyfrifon llywodraeth ganolog, cyfryngau lleol, a'n partneriaid) neu'r rhai y gallwn drosglwyddo eu gwybodaeth er budd llawer o gleifion, eu teuluoedd neu'r gymuned ehangach. O bryd i'w gilydd, byddwn hefyd yn ceisio rhoi ein cefnogaeth i ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol.
Bydd hefyd adegau y bydd angen i ni ddilyn cyfrif er mwyn cymryd rhan mewn sgyrsiau.
Nid yw’r ffaith ein bod ni’n dilyn neu'n ymgysylltu â rhywun yn golygu ein bod yn eu cymeradwyo.
Rydym yn ceisio rhannu neu aildrydaru gwybodaeth a fydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i'n dilynwyr. Peidiwch â digio os na fyddwn yn aildrydaru neu'n rhannu rhywbeth rydych chi'n gofyn i ni ei wneud. Fel sefydliad dibynadwy, mae'n bwysig ein bod yn ystyried yn ofalus yr hyn rydym yn ei rannu er mwyn parhau i fod yn ddiduedd a chytbwys, er mwyn diogelu enw da'r sefydliad.
Mae gan y rhan fwyaf o gymunedau ar-lein eu rheolau a'u canllawiau eu hunain, y byddwn bob amser yn eu dilyn.
Lle bo modd, byddwn yn dibynnu ar y mesurau amddiffyn ac ymyrraeth sydd eisoes ar waith gan y safle rhwydweithio cymdeithasol (e.e. yn erbyn cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu dramgwyddus), er enghraifft drwy dynnu sylw at sylwadau neu eu rhybuddio am unrhyw achosion o dorri amodau a thelerau'r safle. Mae gennym hefyd rai o'n rheolau ein hunain.
Pan fydd defnyddwyr yn postio rhywbeth sarhaus byddwn yn gweithredu'n gyflym i'w ddileu ac atal cynnwys tebyg rhag ymddangos eto. Yn ogystal, rydym yn cadw'r hawl i ddileu neu ofyn am ddileu unrhyw gyfraniadau ar draws y cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn ystyried eu bod yn torri rheolau'r gymuned berthnasol, neu unrhyw un o'r canllawiau canlynol:
Yn anffodus, ac fel dewis olaf, bydd angen i ni weithiau 'rwystro' defnyddwyr os ydynt yn gwrthod dilyn y canllawiau hyn yn gyson a/neu os nad ydynt yn ymateb i geisiadau i ddileu postiadau sy'n perthyn i'r categorïau uchod.
Os gwelwch yn dda, cymerwch ofal i beidio â gwneud datganiadau enllibus. O dan y gyfraith mae hyn yn golygu datganiad sy'n niweidio enw da person neu sefydliad yng ngolwg person rhesymol. Trwy gyhoeddi datganiad o'r fath, gall y ddwy ochr fynd i drafferthion difrifol. Felly, byddwn yn dileu neu'n gofyn i chi ddileu unrhyw ddatganiad y gellid ei ystyried yn enllibus.
Mae ein cyfrifon yn anwleidyddol ac rydym yn gofyn i gyd-ddefnyddwyr barchu hyn a deall na allwn gymryd rhan mewn unrhyw ddadl wleidyddol. Yn ystod y cyfnodau cyn yr etholiad, mae'n rhaid i ni fod yn arbennig o ofalus i beidio â gwneud na dweud unrhyw beth y gellid ystyried ei fod yn cefnogi unrhyw blaid neu ymgeisydd gwleidyddol. Byddwn yn parhau i gyhoeddi cyhoeddiadau gwasanaeth pwysig gan ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ond efallai y bydd yn rhaid i chi ddileu ymatebion, neu y byddwn yn gofyn i chi ddileu ymatebion os gellid eu dehongli fel rhai sy’n ffafrio plaid wleidyddol neu’n ymfflamychol.