Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Gwaith

Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol amrywiaeth eang o leoliadau profiad gwaith ad-hoc ar gyfer myfyrwyr ysgol ac oedolion ifanc yn ardal Caerdydd a'r Fro, sy'n cael eu cydlynu'n uniongyrchol gan reolwyr llinell. Gall profiad gwaith fod yn fuddiol i'r unigolyn a'r Bwrdd Iechyd. Mae myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut mae gofal iechyd yn gweithio a'r rolau amrywiol sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth iechyd. Ar yr un pryd, trwy ddarparu lleoliadau strwythuredig sy'n rhoi llawer o wybodaeth, mae'r Bwrdd Iechyd yn cael cyfle i ddenu pobl ifanc i'n gweithlu yn y dyfodol. 

Myfyrwyr Ysgol / Coleg (Blynyddoedd 10 – 13)

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr 14-18 oed sydd mewn addysg amser llawn yn gallu cymryd rhan mewn profiad gwaith gyda ni. Cyn cysylltu, meddyliwch am beth yr hoffech ei wneud a pha faes y mae gennych ddiddordeb ynddo (e.e. gweinyddiaeth, therapïau, nyrsio ac ati). Mae rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o adrannau a gwasanaethau a gynigiwn fel Bwrdd Iechyd ar gael ar y dudalen 'Ein Gwasanaethau' (sylwch nad yw pob maes yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith).

Pan fyddwch yn gwybod pa faes y mae gennych ddiddordeb ynddo, anfonwch eich manylion atom trwy neges e-bost, gan atodi llythyr sy'n esbonio pam mae gennych ddiddordeb, a byddwn yn anfon eich manylion ymlaen at yr adran berthnasol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni ba adran y mae gennych ddiddordeb ynddi neu ni fyddwn yn gallu anfon eich manylion ymlaen. Os derbynnir eich cais, bydd yr adran yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i wneud y trefniadau angenrheidiol.

Sylwch fod angen o leiaf dri mis i sefydlu lleoliad profiad gwaith.

Lleoliadau Dewisol i Israddedigion yn yr Ysgol Meddygaeth

Yn anffodus, nid yw'r Ysgol Meddygaeth yn gallu delio ag unrhyw geisiadau pellach am leoliadau clinigol dewisol ar hyn o bryd. Cadwch lygad ar y dudalen hon ar gyfer diweddariadau.

Cysgodi Meddyg neu Lawfeddyg

Nid yw'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cynnig lleoliadau profiad gwaith meddygol nac yn caniatáu i fyfyrwyr gysgodi meddygon. Os yw'r myfyriwr yn y Chweched Dosbarth, gall wneud cais am le ar y Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol. Cynhelir y rhaglen hon drwy gydol yr haf ac mae'n rhoi blas ar feddygaeth. Sylwch nad yw'r rhaglen hon ar gael i unrhyw un sydd eisoes wedi cwblhau gradd mewn meddygaeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Ganolfan Israddedigion ar 029 2074 5261. 

Gwaith am Dâl

Os ydych yn ceisio cyflogaeth am dâl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gallwch weld ein rhestr lawn o swyddi gwag ar ein tudalen swyddi.

Gellir cael rhagor o wybodaeth trwy anfon neges e-bost at Dîm Recriwtio Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), ar 02920 905353 neu drwy ysgrifennu at:  

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
Gwasanaeth Recriwtio De-ddwyrain Cymru
4ydd Llawr Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Cyfleoedd Gwirfoddoli

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, edrychwch ar ein hadran Wirfoddoli. Peidiwch â chysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol i holi ynghylch profiad gwaith gan na fyddant yn gallu eich helpu. Maen nhw'n ymdrin â chyfleoedd gwirfoddoli yn unig.

Dilynwch ni