Neidio i'r prif gynnwy

Eich Apwyntiad Claf Allanol

 

Eich Apwyntiad

Byddwch yn cael gwybod am eich apwyntiad drwy lythyr, cerdyn, galwad ffôn neu neges destun yn cynnwys dolen rhyngrwyd i Borth Cleifion diogel y Bwrdd Iechyd. Bydd pob gohebiaeth yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol am eich apwyntiad gan gynnwys y dyddiad, yr amser a'r lleoliad ac efallai bydd yn cynnwys deunydd darllen ychwanegol. Bydd y Porth Cleifion yn cynnwys dolen i lythyr apwyntiad digidol ac offeryn cynorthwyol i ddarllen neu gyfieithu eich llythyr.

I helpu'r Bwrdd Iechyd i ddefnyddio apwyntiadau gwerthfawr yn ddoeth, rhowch wybod inni ar unwaith os na fyddwch yn gallu dod. Bydd hyn yn ein galluogi i drefnu dyddiad mwy cyfleus neu gynnig yr apwyntiad i rywun arall. Os na fyddwch yn rhoi gwybod eich bod am ganslo, fe allech gael eich atgyfeirio'n ôl at eich Meddyg Teulu.

Efallai hefyd y gofynnwn ichi ddefnyddio un o'n gwasanaethau awtomataidd i roi gwybod inni os na fyddwch yn gallu dod i'ch apwyntiad, sef: 

  • Llinell ffôn gadarnhau awtomataidd - bydd gofyn ichi nodi eich dyddiad geni i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
  • Ateb neges destun.
  • Y Porth Cleifion, a ddechreuir gyda neges destun, a bydd gofyn ichi nodi eich dyddiad geni a'ch cod PIN diogel i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau atgoffa am apwyntiad drwy neges destun neu alwad ffôn awtomataidd. Os hoffech drafod ein gwasanaethau atgoffa, rhowch wybod i'r derbynnydd pan ewch i'ch apwyntiad nesaf. Hoffai'r Bwrdd Iechyd eich sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu'n ddiogel ac na chaiff ei defnyddio at ddibenion marchnata. Mae taflen Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau yn egluro pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth a sut y gallai gael ei defnyddio.

Mae gwybodaeth am deithio a pharcio ar gael yn ein tudalennau Teithio, Cludiant a Thraffig Cynaliadwy.

Os oes gennych gwestiwn arall am eich apwyntiad, cewch ffonio'r Ganolfan Trefnu Apwyntiadau ar 029 2074 8181.  Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 8pm – 5pm. Penwythnosau ar gau. Ac efallai bydd gofyn ichi aros yn ystod ein hamseroedd galw prysuraf. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Y Broses Ddilysu

Yn rhan o broses ddilysu newydd, fel y cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn anfon negeseuon testun a llythyrau at gleifion ar ein rhestrau aros.

Anfonir neges destun at gleifion gyda dolen i weld llythyr / holiadur digidol a dim ond trwy ddilyn y ddolen URL, rhoi’r PIN sy’n cael ei gynnwys yn y neges destun a dyddiad geni y gellir cael mynediad.

Os anfonir un o’r negeseuon hyn atoch chi, dilynwch y cyfarwyddiadau a amlinellir yn y neges destun.

 

Cyn i Chi Gyrraedd yr Ysbyty

Cofiwch ddod â'r pethau canlynol gyda chi i'ch apwyntiad:

  • Eich cerdyn neu lythyr ysbyty (mae llythyr digidol yn berffaith dderbyniol)
  • Unrhyw sbesimenau y gofynnwyd ichi eu rhoi (os oes angen ichi ddod â nhw mewn cynhwysydd, cofiwch ei olchi'n drwyadl a'i fod yn lân cyn ichi ei ddefnyddio)
  • Eich cerdyn meddyginiaeth a/neu unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd ar hyn o bryd
  • Eich llyfr lwfans cyfredol os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Teulu
  • Eich sbectol os ydych yn dod i glinig llygaid
  • Rhestr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'r meddyg neu'r nyrs 
  • Arian mân ar gyfer lluniaeth
  • Llyfr neu gylchgrawn i'w ddarllen os ydych ar eich pen eich hun
  • Unrhyw newidiadau mewn manylion personol, fel cyfeiriad neu rif ffôn

 

Wrth Gyrraedd yr Ysbyty

Mae llawer o glinigau cleifion allanol yn gweithredu cyfleuster cyrraedd hunanwasanaeth. Cymerwch eich amser i wirio'n ofalus fod eich manylion wedi'u diweddaru, a rhowch wybod i'r derbynnydd os oes angen unrhyw newidiadau. Os nad ydych yn siŵr ble i ddod o hyd i'ch clinig, holwch wrth Ddesg y Brif Dderbynfa.

Text 1 Text 2

 

 

Dilynwch ni