Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Allanol: Llawfeddygaeth Ddydd

Nid yw cael llawdriniaeth byth yn amser hawdd. Fodd bynnag, gall proses, lleoliad a hyd arhosiad ysbyty effeithio'n sylweddol ar y profiad hwnnw.

Llawfeddygaeth Ddydd yw'r ffordd fodern o reoli triniaeth lawfeddygol ar gyfer llawer o gyflyrau ac mae'n cwmpasu amrywiaeth eang o arbenigeddau llawfeddygol. Mae ganddi lawer o fuddion dros lawdriniaethau cleifion mewnol traddodiadol, yn enwedig i'r claf, gyda sgoriau boddhad uchel, llai o achosion o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty, ac mae'r claf yn gwella yn niogelwch ac amgylchedd cyfarwydd ei gartref ei hun. Mae'r broses yn cynnwys derbyn i'r ysbyty ar ddiwrnod y llawdriniaeth a rhyddhau adref yr un diwrnod ar gyfer mwyafrif y triniaethau. Estyniad i'r rheolaeth Arhosiad Dydd yw i glaf aros dros nos os yw triniaeth lawfeddygol neu statws meddygol y claf angen hynny. Mae'n hawdd darparu ar gyfer hyn.

Mae Llawfeddygaeth Ddydd yn digwydd ar safleoedd Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) trwy'r Uned Lawfeddygol Arhosiad Byr a'r Ysbyty Deintyddol (YAC), yr Uned Llawfeddygaeth Ddydd a Chanolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro (YALl). Mae'r rhain yn unedau arbenigol wedi'u staffio gan staff Llawfeddygaeth Ddydd hyfforddedig, pwrpasol. Os cawsoch eich cynghori i ddod i un o'r unedau hyn, heb os, byddwch yn mynd trwy broses cyn-asesu dan arweiniad nyrsys i wirio'ch iechyd meddygol cyffredinol a'ch addasrwydd ar gyfer llawfeddygaeth ddydd, a chael gwybodaeth am eich derbyniad cyn y dyddiad triniaeth. Efallai y gofynnir i chi ffonio 48 awr cyn dod i mewn i gadarnhau eich presenoldeb. Mae'n hanfodol eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau llwgu a roddwyd ichi cyn dod i'r ysbyty.

Yn dilyn llawdriniaeth, byddwch yn cael lladdwyr poen a meddyginiaethau perthnasol eraill cyn eich rhyddhau. Bydd y nyrs yn esbonio'r cyfarwyddiadau manwl hyn ar ôl eich llawdriniaeth ac mae'n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadauhyn a'r cyfarwyddiadau dosio ar gyfer tabledi/ meddyginiaethau sydd wedi'u hysgrifennu ar y blychau.

Dylai cleifion sy'n cael eu rhyddhau o Lawfeddygaeth Ddydd nodi na ddylech wneud y canlynol am 24 awr yn dilyn triniaeth:

  • Gyrru
  • Gweithredu peiriannau
  • Llofnodi dogfennau pwysig
  • Yfed alcohol

Ar ôl cael eich rhyddhau o Lawfeddygaeth Ddydd, bydd angen i chi sicrhau bod rhywun dibynadwy ar gael i'ch gyrru adref ac, os ydych chi wedi cael anesthetig cyffredinol ar gyfer y driniaeth lawfeddygol, bod rhywun yn gallu eich goruchwylio dros y noson ganlynol.

Llawfeddygaeth arhosiad dydd/dros nos yw'r ffordd gyfoes o gyflawni'r mwyafrif o driniaethau llawfeddygol ac mae hyn ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Y rhif cyswllt ar gyfer yr Uned Arhosiad Byr (Llawfeddygaeth Ddydd) yn YAC yw 029 2074 2662.

Dilynwch ni