Cenhadaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw ‘Gofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach’. Wrth wraidd hyn mae darparu gofal rhagorol i gleifion, ond ni fyddai hyn yn bosibl heb ein staff anhygoel. Mae’r Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff yn ddigwyddiad allweddol yn ein calendr a dyma ein ffordd o dynnu sylw at gyflawniadau anhygoel ein staff dros y deuddeg mis diwethaf.
Ar ôl y cyfnod mwyaf heriol yn hanes y GIG, wrth ymateb i’r Pandemig COVID-19, mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni a’r heriau rydym wedi’u goresgyn gyda’n gilydd. Mae’r Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff yn ddeg oed eleni a byddwn yn gwahodd enwebiadau ar draws 18 categori.
Rydym yn awyddus i glywed gennych am dimau ac unigolion sy’n gweithio ar draws y gwasanaeth sy’n esiamplau o arfer da ac yn haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau. Dim ond drwy gydnabod y llwyddiannau hyn y bydd modd ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein neu drwy’r post, ond rhaid iddynt gyrraedd erbyn 5pm ddydd Llun 31 Ionawr 2022.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar ddydd Gwener, 8 Ebrill 2022 yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.
Categorïau Gwobrau ar gyfer Arfer Rhagorol:-
• Ymhelaethu ar ein Strategaeth ar Waith
• Prosiect Cynaliadwyedd Amgylcheddol Gorau
• Gwobr y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
• Canmoliaeth gan y Cadeiryddion
• Gwobr Arweinyddiaeth Dosturiol
• Cyfraniad at Addysg ac Addysgu
• Cyfraniad eithriadol yn ystod pandemig COVID-19
• Iechyd a Lles yn y Gwaith
• Seren y Flwyddyn yr Elusen Iechyd
• Arloesi, Gwella a Thrawsnewid ar eu gorau
• Arwain ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
• Gwobr Byw Ein Gwerthoedd
• Bodloni ein gofynion ar gyfer Safonau’r Gymraeg
• Cyfraniad Eithriadol at Ddiogelwch
• Ymgysylltu â Chleifion a’u Profiad
• Gwobr Dewis y Bobl
• Ymchwil a Datblygu
• Gwirfoddolwr y Flwyddyn