Neidio i'r prif gynnwy

Cyfweliad gyda Nisha Vellaplamuryil

Lawrlwythwch y ffeil sain o'r botwm ar ochr dde uchaf y chwaraewr

Trawsgrifiad

Siaradwr

Croeso i'r rhifyn cyntaf hwn o'r podlediad Pobl a Diwylliant newydd.

Heddiw rydym yn cyfweld Nisha Vellaplamuryil a ddaeth i'r DU yn wreiddiol fel cynrychiolydd ar y rhaglen Addasu i Nyrsys Tramor. Mae hi bellach wedi cyflawni ei huchelgais o fod yn hyfforddwr ar yr un rhaglen. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau.

Cyfwelydd

Helo Nisha, diolch am gytuno i gael dy gyfweld heddiw.

Nisha

Helo Amelia, hyfryd i gwrdd â ti.

Cyfwelydd

Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr dy fod wedi cytuno i gael dy gyfweld am dy brofiad ar y rhaglen Nyrsys Tramor, felly beth am i ni ddechrau, iawn?

Nisha

Ie, yn bendant. Mae'n bleser gen i ddod yma. Wir i chi.

Cyfwelydd

O, diolch yn fawr. Felly yn gyntaf oll, efallai y gallet ti ddweud ychydig wrthym amdanat ti dy hun ac am dy gefndir?

Nisha

Iawn, felly fy enw i yw Nisha ac rwy'n dod o Kerala yn wreiddiol ond cefais fy ngeni a'm magu yn Mumbai. Felly rwyf wedi bod yn ymarfer nyrsio ers chwe blynedd. Yn 2016, cefais fy ngradd nyrsio ac ar ôl hynny gweithiais yn yr adran lawfeddygol feddygol mewn ysbyty. Ac roeddwn i'n gweithio am ddwy flynedd ac yna meddyliais, iawn. Felly, yn y bôn, rwy'n berson sy'n hoffi herio fy hun, felly meddyliais, beth am roi cynnig arni. Rwyf am herio fy hun a beth am wneud hynny drwy addysgu, ac mae addysgu yn rhywbeth yr wyf wedi'i hoffi, ers pan oeddwn yn blentyn, rwyf bob amser wedi caru addysgu. Rwy'n cofio edmygu fy holl athrawon a'u gwaith da a meddyliais, ‘Un dydd mae’n rhaid i mi fod yn athro ond gan wneud nyrsio ar yr un pryd’. Hefyd, rwy'n ofalgar iawn ac mae fy ffrindiau yn dweud wrthyf fy mod yn berson gofalgar a diymhongar iawn, ac rwy'n hoffi gofalu am bobl, felly meddyliais i ‘iawn’.  Felly rwyf wedi ymarfer ers dwy flynedd, rwyf wedi gweithio yn yr adran lawfeddygol feddygol, ac yn fe wnes i roi cynnig ar addysgu oherwydd fe ddes i wybod y gallwn addysgu wrth nyrsio hefyd. Felly am bron i ddwy flynedd roeddwn yn addysgu'r myfyrwyr nyrsio gradd baglor a hefyd y myfyrwyr bydwreigiaeth. Dysgais sgiliau a gweithdrefnau gwahanol iddynt a hefyd pynciau theori fel anatomeg, Ffisioleg, sylfaen nyrsio.

Cyfwelydd

Wel, mae'n bendant yn swnio fel dy fod ti’n mwynhau'r hyn yr oeddet ti’n ei wneud, ond beth wnes di nesaf?

Nisha

Felly roeddwn i'n addysgu am ddwy flynedd ac roeddwn i wrth fy modd yn addysgu ac yn meddwl...

Cyfwelydd

Rwyt ti’n siarad amdano'n angerddol iawn. Felly mae hynny'n dangos!

Nisha

Mewn gwirionedd, ydy. Felly meddyliais. Iawn, felly rwyf wedi gwneud fy nwy flynedd o addysgu nawr. Beth nesaf? Mae angen i fi wneud rhywbeth mwy, rhywbeth mwy gwahanol. Mae angen i fi herio fy hun a gwneud rhywbeth mwy gwahanol. Felly meddyliais, ‘Iawn, beth am fynd dramor?’

Cyfwelydd

Felly, ai dyna pryd wnes di gais i'r rhaglen Nyrsys Tramor?

Nisha

Felly dyma oedd y drydedd her ac roedd yn gam mawr yn fy ngyrfa a hefyd yn fy mywyd. Felly, fe wnes i gais ac roedd yn rhaid i mi wneud. Felly, es i ati i ganfod sut dwi’n mynd i'r DU a beth sydd ei angen arnaf? Beth sydd angen i fi ei wneud? Fe wnes i ganfod wedyn bod yn rhaid i mi wneud arholiad Saesneg, a llwyddais yn hwnnw, ac ar ôl yr arholiad Saesneg roedd y prawf cyfrifiadurol. Felly mae'r prawf cyfrifiadurol yn debyg i'r prawf ar-lein sy'n seiliedig ar y wybodaeth feddygol neu'r wybodaeth nyrsio. Llwyddais yn yr arholiad hwnnw ac yna'r trydydd cam oedd y cyfweliad.

Cyfwelydd

Felly mae'n swnio fel bod gen ti ddigon i dy gadw’n di’n brysur, ond beth arall wnes di? Pa ymchwil arall?

Nisha

Wedyn roedd yn rhaid i fi feddwl pa ysbyty. Felly yn y cyfweliad, yn sylfaenol, roedd yn rhaid i fi chwilio ar-lein gan nad oedd gennyf syniad, ble na pha ysbyty y dylwn i wneud cais amdano.

Cyfwelydd

Roeddwn i’n meddwl hynny. Felly sut wnes di benderfynu ar Gaerdydd a'r Fro yn y pen draw?

Nisha

Felly mae un o’m hewyrthod, un o'm hewyrthod agos iawn, yn byw yn yr Alban, ac ef yw’r un wnaeth fy symbylu a’m hannog a dywedodd ‘Nisha, os wyt ti’n dod i'r DU, yna mae'n rhaid i ti ddod i Gaerdydd.’ Dywedais, ‘Iawn, ewythr, pam wyt ti’n dweud hynny?’ Gan nad oedd gen i syniad am Gaerdydd. Felly dywedodd fod Caerdydd yn lle da iawn a dywedodd ei bod yn ddinas hardd. Dinas ddigynnwrf a thawel, felly meddyliais...

Cyfwelydd

Oni bai bod gêm rygbi!

Nisha

Ie, rygbi dwi'n gwybod. Felly es i ati wedyn i chwilio ar-lein oherwydd doedd gen i ddim syniad sut le oedd Caerdydd a sut le fyddai'r ysbyty, sut fyddai'r bobl, ac roeddwn i'n adnabod neb, felly roedd yn her i mi gan nad yw hyd yn oed fy ewythr a'm teulu yng Nghaerdydd, ac roeddwn i’n meddwl,  ‘Iawn, dydw i ddim yn mynd i'r Alban, dydw i ddim yn mynd i Lundain chwaith, lle mae fy ffrindiau, ond fe af i Gaerdydd’, felly dyma'r bedwaredd her. Wyt ti’n cofio fi’n sôn am yr heriau? Digwyddais i hefyd weld y fideos ar YouTube, gwelais fideos y staff nyrsio o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ar dudalen Facebook ac fe gefais i argraff dda iawn o Gaerdydd.

Cyfwelydd

Mae hynny'n wych! Mae'n swnio fel...

Nisha

A dwi ddim yn difaru gwneud y penderfyniad hwnnw.

Cyfwelydd

Ahh fe wnes di ateb fy nghwestiwn oherwydd, roedd dy holl ymchwil wedi talu ar ei ganfed.

Nisha

Yn bendant, yn hollol! Penderfynais y byddwn i’n mynd i Gaerdydd ac yna bu'n rhaid i mi wneud cais drwy asiantaeth ac yna fe ges i gyfweliad a chefais fy newis yng Nghaerdydd a'r Fro.

Cyfwelydd

Arbennig. Felly fe ges ti dy ddymuniad ar ôl hynny i gyd.

Nisha

Do.

Cyfwelydd

Gwych. Hyfryd! Ac felly, pan wnes di gyrraedd yma, Nisha, rwy’n siŵr dy fod wedi wynebu heriau.

Nisha

Do wir, cyrhaeddais yma yn 2019 ac fel nes i sôn, roeddwn i’n adnabod neb. Felly, pan laniais i yma, nid oedd gennyf hyd yn oed un ffrind ac rwy’n cofio y daeth dau berson gyda mi ac fe wnaethon ni gyfarfod yn y maes awyr. Daethom yn ffrindiau ac roeddem yn grŵp hyfryd, grŵp o dri. Felly ni oedd y grŵp lleiaf a'r amser hwnnw, pan ddes i yma yn 2019, ni oedd trydydd grŵp y Rhaglen Nyrsys Tramor. Felly roedd dwy garfan o'm blaen i. Ac felly roedden ni’n tair carfan i gyd, ac roedd bob un ohonom yn ceisio canfod ein ffordd, roedden nhw hefyd yn eithaf newydd i'r amgylchedd. Roedd hi’n braf iawn, ac fe ddes i yma ac roeddwn i’n byw yn llety'r ysbyty gyda’r tair carfan arall oedd yn yr ysbyty, ond roedd byw mewn hostel yn dipyn o her i mi. A minnau’n dod o awyrgylch lles ces i fy sbwylio, nid yn ormodol, ond roeddwn i'n arfer byw gyda fy rhieni a...

Cyfwelydd

Felly roeddet ti wedi arfer â hafan ddiogel?

Nisha

Oeddwn, ac yna dyma fi mewn hostel gyda phobl nad oeddwn i’n eu hadnabod. Ond yn bendant rwy'n hoffi siarad â phobl, fe wnes i ryngweithio â nhw, fe ddes i'n gyfeillgar gyda nhw ac rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â nhw. Felly roedd y dyddiau cychwynnol yn heriol iawn oherwydd roedd yn rhaid i mi goginio ar fy mhen fy hun.

Cyfwelydd

O, ydy hynny'n rhywbeth rwyt ti’n ei golli, y bwyd roedd dy fam yn arfer ei goginio?

Nisha

Ond nawr fyddet ti ddim yn credu ei fod yn ddwy flynedd a hanner. Nawr mae fy ffrindiau'n dweud fy mod i'n coginio, rwy'n coginio bwyd rhagorol.

Cyfwelydd

Ah da iawn ti!

Nisha

Yn union, felly fel person oedd yn arfer coginio reis yn unig. Nawr gallaf wneud biryani.

Cyfwelydd

Gwych, felly mae llawer o fanteision ynghlwm wrth ddod yma? Nid dim ond o ran dy yrfa nyrsio. Ac fel nes di sôn Nisha, rwyt ti bellach yn hyfforddwr ar y rhaglen OSCE, felly mae popeth wedi dod yn ôl i'r dechrau, onid yw?

Nisha

Dwi wrth fy modd.

Cyfwelydd

Felly, mae gennyt fewnwelediad o ddwy ochr y rhaglen o bosib. Beth fu'r peth gorau am dy brofiad?

Nisha

Byddwn yn dweud y rhaglen nyrsio tramor, dwi’n ddiolchgar iawn i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro am fy newis i ac am fy helpu i fod yn rhan o'r rhaglen hon gan fod yr hyfforddwyr yma'n rhagorol iawn. Dwi’n cofio pan ddechreuais yno, roedd Mel a Liz, sy'n dal i fod yma, ac roedd dau hyfforddwr hefyd, Jackie a Steph, sy'n gweithio mewn gwahanol adrannau, ond mae’r pedwar ohonynt wedi gweithio mor galed ac maent wedi cyfrannu’n fawr at ein llwyddiant. Felly dwi wedi pasio fy OSCE yn llwyddiannus ac rwy'n rhoi’r clod iddyn nhw. Maen nhw mor benderfynol ac maen nhw'n gweithio'n galed iawn ac rwy'n wirioneddol freintiedig a diolchgar fy mod i'n gweithio gyda fy mentoriaid, ac rwy'n gweithio fel cyd-fentor gyda nhw, felly mae'n gyflawniad gwirioneddol i mi ac rwy’n dysgu rhywbeth bob dydd.

Cyfwelydd

Diolch Nisha, felly pam roeddet ti eisiau bod yn hyfforddwr OSCE ar ôl i ti orffen y rhaglen a bod mewn ymarfer clinigol am gyfnod?

Nisha

Rwy'n cofio yn ystod y dosbarthiadau roeddwn i'n arfer gwylio fy mentoriaid, fe wnes i sôn am eu henwau'n gynharach, ac roeddwn i'n arfer meddwl ‘Sut maen nhw'n ei wneud cystal? Beth sydd ganddynt? Beth maen nhw wedi'i wneud i fod yn hyfforddwr?’ Roeddwn i’n dwli ar y broses OSCE a sut roedden nhw’n arfer esgus bod yn gleifion i ni, roeddwn nhw’n arfer ymgymryd â rôl claf ac roedden ni’n arfer eu hasesu. Gwneud arsylwadau arnynt. Cyflawni sgiliau gwahanol, ac felly roeddwn i'n hoffi gwneud hynny, ac roeddwn i’n arfer meddwl ‘Sut maen nhw'n ei wneud cystal’, ac roeddwn i'n arfer dweud wrthyf fy hun bod yn rhaid i mi wneud yr un peth un diwrnod. Roeddwn i yn y lle hwn, ond roeddwn i’n gwybod ei fod yn rhy gynnar i mi bryd hynny oherwydd y cyfan roeddwn i’n ceisio ei wneud oedd llwyddo yn yr OSCE. Ac yn y pen draw fe wnes i, felly ar ôl llwyddo yn fy arholiad, dechreuais fel nyrs staff, ond yn y cyfamser rwy'n cofio fy mod i'n arfer meddwl ‘Sut mae dod yn hyfforddwr?’ Gwyddwn ar y pryd ei fod yn rhy gynnar i mi. Efallai bod angen i fi gael rhywfaint o brofiad clinigol yn y DU, ac yna gallwn wneud cais amdano. Ac yna fe wnes i weithio fel nyrs staff yn y ward fasgwlaidd hyfryd. Ac ie, fy rheolwr oedd Rhiannon, felly hi oedd yr un a'm symbylodd oherwydd i mi fynegi fy marn, a'm rheolwr ward, roedd hi wir yn fy nghefnogi, gwnaeth yn siŵr fy mod i’n cael yr hyfforddiant angenrheidiol, cywir, yn mynychu'r sesiynau mentora, ac rwy’n meddwl am y boddhad rydych chi’n ei gael ar ddiwedd pob sifft, rydyn ni’n dweud fod nyrs yn berson sy'n achub bywydau, ond rwy'n teimlo fy mod wedi rhoi cymaint o wybodaeth ac rwyf wedi rhoi fy ngorau i'r myfyrwyr nyrsio, oherwydd yfory byddan nhw’n gyfrifol am y cleifion hynny, am fywydau dynol, felly fe welais y swydd hyfforddwr OSCE hon ac fe wnes i gais amdani ac rwy'n ddiolchgar iawn i’m holl gydweithwyr, ffrindiau sydd wedi fy nghefnogi'n fawr.

Cyfwelydd

Wel, mae mor hyfryd clywed am yr holl gefnogaeth rwyt ti wedi'i chael ers cyrraedd yma, Nisha. Efallai fod hwn yn gwestiwn amlwg, ond a fyddet ti’n dweud fod dy brofiad wedi dy helpu yn dy rôl bresennol?

Nisha

Gallaf gydymdeimlo â nhw’n llwyr, achos dwi fy hun wedi bod yn eu lle. Ydw, rydw i wedi bod yn eu hesgidiau. Ac ydw, rwy'n credu y gallaf ddeall sut maen nhw'n teimlo a pha bwysau maen nhw'n ei deimlo a beth maen nhw'n ei brofi. Ac felly rwy'n teimlo fy mod yn cyfrannu'n dda iawn oherwydd gallaf ddeall pob person.

Cyfwelydd

Felly rwy'n credu fy mod yn gwybod yr ateb i hyn Nisha, ond a fyddet ti’n argymell y rhaglen OSCE?

Nisha

Rwy’n argymell pawb sy’n gwrando ar y podlediad hwn i fod yn rhan o'n rhaglen nyrsys tramor, pwy bynnag sydd dramor ac sydd am fod yn nyrs yn y DU, dewch i Gaerdydd a'r Fro oherwydd bod gennym dîm rhagorol, nid yn unig yr hyfforddwyr OSCE ond yr Adran Addysg yn gyfan gwbl. Mae pob aelod mor garedig, cariadus a hyd yn oed heddiw, fel hyfforddwr, rwy'n teimlo'n un ohonynt. Iawn, ydw rwy’n nyrs dramor, rwy'n hyfforddai ac rwyf newydd ddod yn hyfforddwr, ond rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy nghroesawu ac rwy'n teimlo'n un ohonynt ac mae hynny'n beth mawr i fi.

Cyfwelydd

Diolch yn fawr i ti ac mae hynny mor wych, mae dy ddau angerdd sef nyrsio a gofalu am eraill yn ogystal ag addysgu, drwy gyfrwng OSCE, wedi bod yn gam mawr yn dy yrfa, ac wedi caniatáu i ti herio dy hun fel y gwnes di sôn, a dy fod yn mwynhau gwneud hynny. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr dy fod wedi rhannu dy brofiad gyda ni heddiw. Mae'n wych dy gael yn rhan o'r tîm ac rwyt ti’n llysgennad gwych i'r Rhaglen Nyrsys Tramor. Diolch.

Nisha

Diolch Amelia. Diolch.

Dilynwch ni