Gall hyfforddi a mentora fod yn ddulliau effeithiol o ddatblygu pobl a'u helpu i gyflawni eu potensial llawn. Mae hyfforddi a mentora yn ddulliau datblygu sy'n seiliedig ar ddefnyddio sgyrsiau un i un i wella sgiliau, gwybodaeth neu berfformiad gwaith unigolyn.
Yn BIP Caerdydd a'r Fro, rydym yn defnyddio'r ddau i wella sgiliau, gwybodaeth a pherfformiad ein staff o ran sgiliau a nodau penodol.
Hyfforddi |
Mentora |
Mae hyfforddi'n cynnwys y gred bod gan yr unigolyn yr atebion i'w broblemau ei hun tu mewn iddo. Nid yw'r hyfforddwr yn arbenigwr pwnc, ond yn hytrach mae'n canolbwyntio ar helpu'r unigolyn i ddatgloi ei botensial ei hun a'i helpu i fod y gorau y gall fod. Nod hyfforddi yw cynhyrchu'r perfformiad a'r gwelliant gorau posibl yn y gwaith. Mae'n canolbwyntio ar sgiliau a nodau penodol, er y gall hefyd gael effaith ar briodoleddau personol unigolyn fel rhyngweithio cymdeithasol neu hyder. Mae hyfforddi ffurfiol fel arfer yn para am gyfnod penodol o amser ond mae llawer o reolwyr yn defnyddio cwestiynau hyfforddi fel rhan o'u harddull reoli barhaus. |
Mae mentora yn y gweithle yn tueddu i ddisgrifio perthynas lle mae cydweithiwr mwy profiadol yn rhannu ei wybodaeth ehangach i gefnogi datblygiad aelod staff dibrofiad. Mae'n tynnu ar sgiliau cwestiynu, gwrando, egluro ac ail-fframio sydd hefyd yn gysylltiedig â hyfforddi. |
Nid yw hyfforddwr o reidrwydd yn unigolyn dynodedig: gall unrhyw un ddefnyddio dull hyfforddi gydag eraill, p'un a ydynt yn gyfoedion, yn is-weithwyr neu'n uwch swyddogion. | |
|
|
Dysgwch fwy am Hyfforddi |
Dysgwch fwy am Fentora |
|
Hyfforddi |
Mentora |
Cynghori |
||
Y Cwestiwn |
Sut? |
Beth? |
Pam? |
||
Y Ffocws |
Y presennol |
Y dyfodol |
Y gorffennol |
||
Nod |
Gwella sgiliau | Datblygu ac ymrwymo i nodau dysgu | Goresgyn rhwystrau seicolegol | ||
Amcan |
Codi cymhwysedd |
Agor gorwelion |
Adeiladu Hunan-ddealltwriaeth |
I gael mwy o wybodaeth am Hyfforddi a Mentora, edrychwch ar y dolenni tudalennau uchod. Os hoffech ddarllen ymhellach, ewch i CIPD https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/people/development/coaching-mentoring-factsheet