Ers 2022, rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn cydnabyddiaeth yn y gwobrau canlynol:
Unwaith y byddwch yn ymuno â'n rhaglen prentisiaeth byddwch yn gallu manteisio ar y gwobrau a'r buddion hyn:
Fel rhan o'ch cyflogaeth, byddwch yn cael eich cefnogi i gwblhau cymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol a ariennir yn llawn sy'n gweddu orau i'r rôl sydd wedi cael ei dyrannu i chi.
Byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn gan asesydd a ddarperir gan y sefydliad hyfforddi a chan adran gefnogol a fydd yn rhoi'r gwaith i chi i’ch galluogi i ddangos tystiolaeth o'ch dysgu.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig cyflog prentisiaeth cystadleuol. Fel sefydliad rydym am sicrhau eich bod mor agos â phosibl at yr isafswm cyflog cenedlaethol yn ystod eich hyfforddiant.
Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn, pro rata, yn dibynnu ar eich oriau gwaith. Gallwch wneud cais am y gwyliau hyn drwy’r Cofnod Staff Electronig.
Byddwch hefyd yn gymwys i gael yr 8 gŵyl banc bob blwyddyn (yn dibynnu ar sut maen nhw'n disgyn). Yn dibynnu ar eich maes gwaith, efallai y bydd gofyn i chi weithio'r rhain, ac os felly, gallwch gymryd yr oriau hyn ar adeg arall.
Gall yr ychydig ddyddiau cyntaf o gyflogaeth newydd fod yn frawychus. I hwyluso hyn, bydd eich rheolwr llinell yn eich cyflwyno i'ch cyfaill / mentor ar y diwrnod cyntaf.
Bydd eich cyfaill / mentor yn sicrhau eich bod chi'n gallu ymgartrefu cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol i chi lywio'r adran.
Yn ogystal â bod eisiau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod yn 'lle gwych i weithio a dysgu', mae'n bwysig bod ein cydweithwyr yn cael eu cefnogi gyda’u hiechyd a'u llesiant eu hunain. Bydd Gwasanaeth Iechyd a Lles Pobl yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wella'ch llesiant emosiynol a chorfforol, gan eich helpu i fyw bywyd iach.
Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch â rheolwr eich adran neu'r Cydlynydd Prentisiaethau ac Ehangu Mynediad.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.