Mae recriwtio prentisiaid i swyddi gwag priodol yn ffordd gynaliadwy o sicrhau a thyfu eich gweithlu ar gyfer y dyfodol. Adolygwch y Canllawiau Rheolwyr a'r Broses Recriwtio Prentisiaid a fydd yn rhoi'r manylion i chi o'r cyfnod recriwtio hyd at y Prentis yn sicrhau cyflogaeth ar ddiwedd y cymhwyster.
Ffeithiau allweddol:
Os oes gennych swydd wag yn eich maes/ardal a'ch bod yn credu y byddai hon yn addas ar gyfer Prentis, cysylltwch ag Emma Bendle, y Cydlynydd Prentisiaeth ac Ehangu Mynediad i drafod. Mae'r tabl isod yn rhoi trosolwg o'r broses, ond cyfeiriwch at y Canllawiau Rheolwyr uchod i weld y broses lawn. Gellir gweld trosolwg cyflym o'r broses isod yma.
Adnabod | Nodi unrhyw swyddi gwag sydd ar y gweill yn eich sefydliad ac ystyried a fyddent yn briodol datblygu i fod yn swydd brentisiaeth. |
Cydlynu | Cysylltu ag Emma Bendle, sef y Cydlynydd Prentisiaeth ac Ehangu Mynediad, a fydd yn cynorthwyo i ddatblygu'r disgrifiad swydd, y fanyleb person a chysylltu â darparwyr addysg lleol. |
Hysbysebu | Bydd Emma Bendle yn hysbysebu trwy sianeli priodol fel swyddi GIG ac yn cysylltu â Gwasanaeth Paru Swyddi Gyrfa Cymru a darparwyr hyfforddiant. |
Recriwtio |
Llunio rhestr fer, cyfweld a phenodi. Gwiriadau recriwtio wedi eu cwblhau, contractau wedi eu hanfon gan y gwasanaethau a rennir a chychwyn y broses sefydlu. |
CPD | Bydd y prentis yn cychwyn ar ei lwybr addysgol o'r dechrau, bydd mentor yn cael ei aseinio, a chaiff datblygiad ei fonitro trwy 1:1 a goruchwyliaeth. |
Y dyfodol | Llwyddo i ennill cymhwyster. Cyfweliad ar gyfer swydd barhaol bosibl a chofrestru ar gymhwyster prentis uwch. |