Neidio i'r prif gynnwy

Academi Prentisiaid

Ydych chi newydd ddechrau yn y byd gwaith neu'n chwilio am newid gyrfa?

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, gallai prentisiaeth fod y cam naturiol nesaf i chi, gan roi’r cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa a dechrau ar daith gyffrous yn y GIG.

Sefydlwyd ein Hacademi Prentisiaeth yn 2019 ac ers hynny rydym wedi recriwtio bron i 70 o brentisiaid mewn gwahanol broffesiynau megis Gweinyddiaeth, Digidol, TG, Ystadau, Gwyddor Gofal Iechyd a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.

Ein huchelgais yw tyfu’r rhaglen hon fel y gallwn gynnig mwy o’r cyfleoedd hyn ac adeiladu gweithlu’r dyfodol.

Pam dewis ni

Ers 2022, rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn cydnabyddiaeth yn y gwobrau canlynol, mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn dyst i’r cyfleoedd gwych ar draws ein sefydliad.

  • Gwobrau Prentisiaethau Cymru Rownd Derfynol 2022 – Prentis Sylfaen y Flwyddyn – Olivia Headley-Grant
  • Gwobrau Engage to Change Enillydd 2023  – Prentisiaethau o ansawdd uchel a chyfleoedd datblygu i’r rhai ag anableddau dysgu.
  • Gwobrau Prentisiaethau Cymru Enillydd 2024  – Macro-gyflogwr y Flwyddyn

 

Dechrau eich Gyrfa

Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol – os oes cyfleoedd prentisiaeth ar gael bydd adran ar wahân yn ymddangos ar y dudalen swyddi.

Ddim yn siŵr sut i gwblhau cais da? Ewch i'n Awgrymiadau ar gyfer Ysgrifennu Ceisiadau Da.

Careersville – adnodd gwych i ddarganfod mwy am rolau yn y GIG.

Llywodraeth Cymru – Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Os ydych yn aelod o staff ewch i'n tudalen SharePoint i ddarganfod sut rydym yn eich cefnogi.

Dilynwch ni