Datblygu Sgiliau - Mae prentisiaethau yn sicrhau bod gan eich gweithlu'r sgiliau a'r cymwysterau ymarferol sydd eu hangen ar eich sefydliad nawr ac yn y dyfodol. Yng Nghymru yn benodol, gallant eich helpu i fynd i'r afael â'ch prinder sgiliau, a gellir eu cynllunio o amgylch anghenion eich busnes. Mae prentisiaethau yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i gadw i fyny â'r dechnoleg a'r arferion gwaith diweddaraf yn eich sector.
Cymhellion Ariannol - Mae prentisiaethau yn cyflwyno enillion go iawn i'ch llinell waelod. Gall buddsoddi mewn Prentisiaid arwain at gostau recriwtio is dros amser ac mae cyfraddau cyflog yn fwy ffafriol. Yn achos y rhai a gyflogir sydd o dan 25 oed, nid oes angen cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Cynhyrchedd a Chadw Staff - Gall buddsoddi mewn Prentisiaethau i hybu sgiliau allweddol yn eich sefydliad arwain at fwy o gynhyrchiant, llai o drosiant staff a gweithlu mwy bodlon a galluog.
Cymhelliant a Theyrngarwch - Mae prentisiaid yn tueddu i fod yn awyddus, yn llawn cymhelliant, yn hyblyg ac yn deyrngar i'r cwmni a fuddsoddodd ynddynt.
Ennill wrth iddynt ddysgu - Nid oes rhaid i'r Prentis dalu unrhyw ffioedd cwrs ac mae'n ennill cyflog yn ystod ei gyfnod dysgu.
Dysgu yn y Swydd - Mae prentisiaid yn dysgu yn y swydd, yn meithrin gwybodaeth a sgiliau, yn ennill cymwysterau. Maent yn gweithio tuag at gymhwyster yn y gwaith fel Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ)/ Fframwaith Credyd Cymhwyster (QCF) a chymwysterau eraill a gydnabyddir yn genedlaethol.
Cefnogaeth yn ystod hyfforddiant - Mae'r cyflogwr a'r hyfforddiant yn darparu ystod o gefnogaeth i'r Prentis yn ystod y Brentisiaeth. (Ceir ystod o dempledi yn nes ymlaen yn y pecyn hwn a fydd yn eich helpu i roi'r gefnogaeth barhaus sydd ei hangen ar eich Prentis).
Rhagolygon - Gan fod Prentisiaid wedi'u hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch, mae llwybrau clir i ddilyniant yn dilyn eu Prentisiaeth.
Dilyniant - Gall prentisiaid symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (os oes rhai ar gael) neu gallant ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau amhrisiadwy ‘byd gwaith’ i symud ymlaen i swyddi parhaol o fewn eu sefydliad cynnal neu rywle arall. (Yn ddiweddarach yn y pecyn hwn ceir model Prentisiaeth i Lwybr Cyflogaeth).
Buddion eraill - Mae gan brentisiaid hefyd fynediad at nifer o fuddion myfyrwyr fel cardiau UCM, ac ati. A gallant hefyd ymuno â chynllun pensiwn y GIG sydd ymhlith y gorau sydd ar gael yn y Sector cyhoeddus. Hefyd fel un o weithwyr y GIG, bydd y prentis yn gymwys i gael nifer o ostyngiadau gyda manwerthwyr sydd ar gael i Staff y GIG yn unig. Mae mwy o fanylion am y manwerthwyr hyn ar gael ar-lein ar nifer o wefannau.