Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2
Anelir y rhaglen hon yn bennaf at ymgeiswyr sy'n ymgymryd â rôl gwasanaeth cwsmer ac sy'n cydnabod bod cyflogaeth yn y sector gwasanaeth cwsmer yn cynnwys ystod amrywiol o swyddogaethau, tasgau a gweithgareddau sy'n datblygu ac yn newid yn gyson. Mae'n addas ar gyfer ymgeiswyr:
- Sydd â rolau gwasanaeth cwsmer a swyddi gweinyddol penodol
- Sy'n gweithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmer
- Y mae eu rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn cyflawni'r canlynol:
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaeth Cwsmer
- Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer
- Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 1 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1
Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.
Prentisiaeth Uwch mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 3
Anelir y rhaglen hon at ymgeiswyr a fydd yn darparu ac yn rheoli gwasanaeth cwsmer ac a fydd yn atebol yn eu maes ymarfer. Gallai ymgeiswyr fod yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol neu'n aelod uwch mewn tîm fel o fewn amgylchedd gwasanaeth cwsmer masnachol. Mae'n addas ar gyfer ymgeiswyr sydd:
- Yn gallu dylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn y gwaith
- Yn defnyddio rheolau a systemau'r sefydliad yn hyblyg i ddarparu gwasanaeth da
- Yn cwestiynu'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud ac yn awgrymu gwelliannau
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da a gwybodaeth eang am beth i'w wneud, pwy i'w weld a ble i fynd i wneud pethau i'r cwsmer
- Yn ymwybodol o'r pwysau masnachol neu bwysau arall sy'n wynebu'r sefydliad/ busnes
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn cyflawni'r canlynol:
- Prentisiaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer
- Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmer
- Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 2 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2
Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.