Yn BIP Caerdydd a'r Fro, rydym yn awyddus i greu diwylliant lle archwilir cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau, eu profiad, eu haddysg a'u cymwysterau. Rydym am ddarparu addysg a llwybrau gwaith a all fod yn hyblyg ac sy'n addas i bobl sydd am ychwanegu gwerth i'r sefydliad trwy ddysgu a gweithio yn y swydd.
Rydym yn gweld prentisiaethau fel cyfle i gyflawni'r nod hwn i wneud y mwyaf o botensial ein gweithlu trwy ymgysylltu â'n staff profiadol, fel eu bod yn trosglwyddo eu sgiliau a'u profiadau i eraill ac yn cefnogi cyfleoedd dysgu ar bob lefel. Ein nod yw sicrhau bod ein staff yn fedrus i ddarparu'r gwasanaethau gorau sy'n canolbwyntio ar y claf.
Rydym yn bwriadu tyfu cyfleoedd prentisiaeth dros y 3 blynedd nesaf mewn meysydd traddodiadol fel ystadau a chrefftau a hefyd ehangu i'n swyddogaethau cymorth hanfodol, sef cadw tŷ, arlwyo, TG, AD a Chyllid; yn ogystal â chefnogi meysydd clinigol mewn meysydd nyrsio, gweinyddiaeth glinigol a gwasanaethu canolog.
Mae prentisiaethau yn ffordd hanfodol o ddatblygu ein gweithlu presennol ac yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn alluog ac yn gymwys yn eu rôl i sicrhau ein bod “yn gofalu am bobl ac yn cadw pobl yn iach”.
Rydym wedi addo ein cefnogaeth i fenter Addewid Caerdydd, gan gefnogi ein cydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd i sicrhau bod pob person ifanc yn y ddinas yn y pen draw yn sicrhau swydd sy'n eu galluogi i gyrraedd eu potensial llawn tra'n cyfrannu at dwf economaidd y ddinas.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Prentisiaid ac i drafod y cyfleoedd sydd ar gael gennym, cysylltwch ag Emma Bendle.