Mae’r BIP yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a sefydliadau proffesiynol cydnabyddedig, ac mae’n eich annog yn weithredol i ymuno ag unrhyw undeb llafur neu gorff proffesiynol o’ch dewis (yn amodol ar unrhyw reolau aelodaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw a allai fod yn gymwys).
Mae Cytundeb Partneriaeth a Chydnabyddiaeth y BIP yn nodi egwyddorion gweithio mewn partneriaeth a chyfrifoldebau’r sefydliad, cynrychiolwyr staff a rheolwyr. Mae’r Cytundeb yn rhestru’r undebau llafur a’r sefydliadau staff sydd wedi’u cydnabod yn swyddogol gan y BIP. Ymhlith y rhain mae:
I gael rhagor o wybodaeth am ymuno ag undeb, siaradwch â’ch cynrychiolydd lleol yn y gweithle, neu edrychwch ar y wefan neu’r hysbysfwrdd perthnasol.
Y Fforwm Partneriaeth Lleol (LPF) yw’r dull ffurfiol y mae’r Bwrdd Iechyd a Chynrychiolwyr o Undebau Llafur/Sefydliadau Proffesiynol yn ei ddefnyddio i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau iechyd. Dyma’r fforwm lle gall rhanddeiliaid allweddol ymgysylltu â’i gilydd i lywio, trafod a cheisio cytuno ar flaenoriaethau lleol ynghylch materion y gweithlu a’r gwasanaeth iechyd.
Caiff LPF ei gyd-gadeirio gan Gadeirydd Cynrychiolwyr y Staff a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Mae’r aelodau’n cynnwys Cynrychiolwyr y Staff (yn cynnwys yr Aelod Annibynnol dros yr Undebau Llafur), y Tîm Gweithredol a’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol, Cyfarwyddwyr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a Phennaeth Llywodraethu’r Gweithlu.
Mae diben yr LPF yn perthyn i bedair thema drosfwaol: cyfathrebu, ystyried, ymgynghori a negodi, ac arfarnu.