Mae Canolfan Hamdden y Barri bellach yn cynnig aelodaeth gorfforaethol ostyngol i ddeiliaid Cerdyn Blue Light.
Bydd aelodaeth gorfforaethol yn cynnwys:
	- Mynediad i’r gampfa, gan gynnwys ymgynghoriad ffitrwydd a rhaglen bersonol 6 wythnos
 
	- Nofio
 
	- Mynediad i gampfa Hammer Strength
 
	- Mynediad i ardal ymarferol awyr agored NEWYDD (sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd)
 
	- Dosbarthiadau ymarfer corff grŵp
 
	- Cyrtiau Badminton a Sboncen (adegau tawel)
 
	- Buddion i aelodau drwy ein ap gyda gostyngiadau i fanwerthwyr amrywiol
 
	- Mynediad i gyfleusterau ym Mhenarth, Llanilltud Fawr, a Chanolfannau Hamdden y Bont-faen. Mae hyn yn cynnwys Ystafelloedd Iechyd yng Nghanolfannau Hamdden Penarth a’r Bont-faen
 
Mae hwn yn gontract hyblyg sy’n gofyn am fis o rybudd cyn canslo, am £33.50 y mis.
Mae’r Cerdyn Blue Light yn costio £4.99 yn unig i gael mynediad at ystod o ostyngiadau anhygoel ar-lein ac ar y stryd fawr am ddwy flynedd. Gallwch gofrestru am Gerdyn Blue Light gan ddefnyddio’r ddolen isod:
Cofrestru ar gyfer Cerdyn Blue Light