Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestrwch â StaffConnect

StaffConnect yw'r ap newydd i ymgysylltu â staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n rhoi mynediad i chi i wybodaeth gywir, gyfoes pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen arnoch chi.

Cael mynediad o unrhyw le

Gyda gweithlu wedi'i wasgaru ar draws sawl safle, staff yn symud a sefyllfa COVID-19 sy'n newid yn gyflym, mae'n bwysicach nag erioed y gall pob aelod o staff gael gafael rhwydd ar wybodaeth gywir, gyfoes ar gyfer eu gwaith.

Ni all llawer o'n staff gyrchu rhwydweithiau corfforaethol na mewnrwyd staff y bwrdd iechyd. Mae StaffConnect yn rhoi mynediad i'r holl staff i'r wybodaeth ddiweddaraf ble bynnag a phryd bynnag y mae ei hangen arnynt ar ddyfeisiau ffôn clyfar, llechen a bwrdd gwaith.

Prif nodweddion

Dyma nodweddion yr ap StaffConnect:

  • Porth newyddion - gyda’r newyddion diweddaraf am COVID-19, arweiniad a deunyddiau cenedlaethol, gwybodaeth am y gweithlu, ac adnoddau llesiant staff.
  • Llyfrgelloedd cymunedau a dogfennau - gan roi lleoedd preifat i fyrddau clinigol, cyfarwyddiaethau ac adrannau drafod eu gwaith a rhannu gwybodaeth ac adnoddau sy'n berthnasol i'w meysydd. Er mwyn ychwanegu dogfennau at eich bwrdd clinigol, cyfarwyddiaeth neu lyfrgell adran, enwebwch weinyddwr trwy e-bostio Covid19cav@wales.nhs.uk.
  • Ffwythiant sgwrsio a sgwrsio grŵp - mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gyfathrebu'n breifat â chydweithwyr ar draws y sefydliad, ond nodwch na ddylid rhannu gwybodaeth adnabyddadwy am gleifion.
  • Mynediad i ESR a sifftiau banc ar-lein - gan roi mynediad i bopeth sydd ei angen arnoch i gyd mewn un lle.

Cysylltu â'r ap

Gall aelodau staff gofrestru ar yr ap drwy ddefnyddio ein ID Sefydliad unigryw: CAVUHB, eu cyfenw a'u rhif staff, y gallwch ddod o hyd iddo yn ESR ac ar eich slip cyflog diweddaraf.

Gallwch lawrlwytho ap ‘StaffConnect’ ar gyfer eich dyfais Apple neu Android, neu gyrchu'r app ar eich dyfais bwrdd gwaith yma

Am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth, e-bostiwch Covid19CAV@wales.nhs.uk.

Canllawiau fideo

Cynhyrchwyd y canllawiau fideo canlynol i helpu staff i wneud y gorau o'r ffwythiant sydd ar gael yn StaffConnect. Maent hefyd ar gael i'w gweld yn yr ap.

Dilynwch ni