StaffConnect yw'r ap newydd i ymgysylltu â staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n rhoi mynediad i chi i wybodaeth gywir, gyfoes pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen arnoch chi.
Gyda gweithlu wedi'i wasgaru ar draws sawl safle, staff yn symud a sefyllfa COVID-19 sy'n newid yn gyflym, mae'n bwysicach nag erioed y gall pob aelod o staff gael gafael rhwydd ar wybodaeth gywir, gyfoes ar gyfer eu gwaith.
Ni all llawer o'n staff gyrchu rhwydweithiau corfforaethol na mewnrwyd staff y bwrdd iechyd. Mae StaffConnect yn rhoi mynediad i'r holl staff i'r wybodaeth ddiweddaraf ble bynnag a phryd bynnag y mae ei hangen arnynt ar ddyfeisiau ffôn clyfar, llechen a bwrdd gwaith.
Dyma nodweddion yr ap StaffConnect:
Gall aelodau staff gofrestru ar yr ap drwy ddefnyddio ein ID Sefydliad unigryw: CAVUHB, eu cyfenw a'u rhif staff, y gallwch ddod o hyd iddo yn ESR ac ar eich slip cyflog diweddaraf.
Gallwch lawrlwytho ap ‘StaffConnect’ ar gyfer eich dyfais Apple neu Android, neu gyrchu'r app ar eich dyfais bwrdd gwaith yma.
Am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth, e-bostiwch Covid19CAV@wales.nhs.uk.
Cynhyrchwyd y canllawiau fideo canlynol i helpu staff i wneud y gorau o'r ffwythiant sydd ar gael yn StaffConnect. Maent hefyd ar gael i'w gweld yn yr ap.