Neidio i'r prif gynnwy

Microsoft Office 365

Mae e-bost yn newid

Yn ystod yr wythnosau i ddod, bydd e-bost yn BIP Caerdydd a'r Fro yn symud draw at Office 365. Hwn yw'r cyntaf o gyfres o newidiadau i gyflwyno Office 365 i'r Bwrdd Iechyd.
O ganlyniad i symud yr e-bost, bydd gennych fewnflwch mwy o faint, a byddwch yn gallu cael at eich negeseuon e-bost o'ch dyfeisiau personol fel eich ffôn neu lechen.
Nid oes angen ichi wneud dim i baratoi, ond cadwch lygad am e-bost yn dweud wrthych pryd yn union fydd eich e-bost yn cael ei symud.

Sut mae cael at Teams ac Outlook ar fy nyfais bersonol?
cam cyntaf yw sefydlu dilysiad aml-ffactor. Hwn yw eich allwedd i ddatgloi Office 365 a chymwysiadau eraill ar eich dyfeisiau personol.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

Pa ddyfeisiau allaf eu defnyddio?

  • Ar gyfer ffonau a llechi sy'n rhedeg yn iOS, iPadOS, neu Android, gosodwch yr apiau o'ch siop apiau
  • Ar gyfer cyfrifiaduron Windows 10, ewch i https://www.office.com 
  • Ar gyfer MacOS, ewch i https://www.office.com - D.S. dim ond mewn porwyr Chrome neu Microsoft Edge y bydd hyn yn gweithio  

 

Beth am fy ffolderi personol?

Bydd eich ffolderi personol yn aros lle maen nhw a byddant ar gael o hyd o Outlook ar eich cyfrifiadur yn y BIP. Bydd ffolderi personol yn cael eu symud i Office 365 rywbryd eto. Ni fydd angen ichi symud negeseuon e-bost i'ch ffolderi personol rhagor. Yn hytrach, agorwch ffolderi yn eich blwch post os ydych am storio negeseuon e-bost. Sylwch y bydd negeseuon e-bost sy'n hŷn na 7 mlynedd yn cael eu dileu o Office 365, yn unol â pholisi e-bost GIG Cymru. 

 

Nid yw rhai pobl yn gallu gweld fy nghalendr, er fy mod i wedi'i rannu gyda nhw. Pam felly? 

Pan fydd eich e-bost wedi'i symud draw at Office 365, ni fydd pobl sydd heb gael eu symud eto yn gallu gweld eich calendr. Byddant yn gallu ei weld eto ar ôl cael eu symud. 

Dilynwch ni