Neidio i'r prif gynnwy

Unigolion y mae Gwaith Rhyw yn effeithio arnyn nhw

Red Umbrella

Mae Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a'r Fro (GCICF) yn cynnig gofal iechyd i bobl y mae gwaith rhyw yn effeithio arnyn nhw ac nad ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu.

Gallwch chi gael mynediad at ofal meddygol gan gynnwys:

  • Gwiriad iechyd
  • Sgrinio iechyd rhywiol
  • Adolygiad meddygol

 

Sut i gael help

Gallwch chi atgyfeirio eich hun drwy:

  • 📞 Ffonio: 029 2183 5449
  • 📧 E-bostio: CAV_CAVHIS@wales.nhs.uk
  • 🚶 Mynd i dderbynfa GCICF yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd

 

🏥 Clinigau Allgymorth mewn Parlyrau

Mae meddyg teulu a nyrs yn ymweld â pharlyrau i gynnig gofal iechyd galw heibio.

  • 🕒 Ar ddydd Mercher, 1:30 PM – 4:30 PM
  • 📍 Nid oes angen apwyntiad

 

I gael mwy o wybodaeth am Iechyd Rhywiol, ewch i adran Iechyd Rhywiol y wefan hon.

Dilynwch ni