Mae'r Tîm Mewngymorth yn helpu pobl o grwpiau cynhwysiant iechyd sy'n mynd i'r Uned Achosion Brys (UAB) neu'n aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).
Mae hyn yn cynnwys pobl:
- Sydd wedi symud i'r DU o wledydd eraill i geisio lloches
- Sy’n ddigartref
- Sydd newydd ddod allan o'r carchar ac sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
- Sy’n dod o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar safleoedd gwersylla anawdurdodedig.
- Y mae gwaith rhyw yn effeithio arnyn nhw.
❤️Beth mae’r tîm yn ei wneud?
Mae'r tîm yn gweithio i wneud y canlynol:
- Ei gwneud yn haws i bobl gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw
- Helpu pobl i adael yr ysbyty yn ddiogel
- Lleihau arosiadau hir yn yr ysbyty
- Cefnogi pobl sy'n ei chael yn anodd defnyddio gwasanaethau iechyd rheolaidd
Mae’n gweithio gyda:
- Staff ysbyty
- Timau tai
- Elusennau a sefydliadau cymorth
🕒 Ble a Phryd?
- Mae’r tîm wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).
- Mae’n gweithio o 8:00 AM i 4:00 PM, dydd Llun i ddydd Gwener.
👩⚕️ Pwy sydd yn y tîm?
Mae’r tîm yn cynnwys:
- Nyrsys sy’n:
- Rhoi cymorth meddygol
- Helpu pobl i gael y driniaeth gywir
- Gweithio gyda thimau ysbyty a chymunedol i gynllunio rhyddhau diogel
- Meddyg Teulu sy’n:
- Ymweld â'r ysbyty.
- Rhoi gwiriadau iechyd a gofal
- Arwain cyfarfodydd i sicrhau bod pobl yn cael cymorth llawn gan wahanol dimau.
- Helpu gyda chynllunio rhyddhau