Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau i Geiswyr Lloches

📍 Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth hwn?

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl:

  • Sy’n aros am benderfyniad gan y Swyddfa Gartref
  • Sy’n byw mewn tai dros dro (a elwir yn gymorth Adran 98)
  • Nad ydyn nhw wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu eto

 

❤️ Beth yw GCICF?

Gwasanaeth iechyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yw Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (GCICF) Mae'n helpu pobl sy'n newydd i'r DU sy'n ceisio lloches ac efallai nad oes ganddyn nhw feddyg teulu eto.

Mae'r tîm yn cynnig:

  • Gwiriadau iechyd
  • Help i gofrestru gyda meddyg teulu lleol pan fyddwch yn symud i dŷ mwy sefydlog (a elwir yn gymorth Adran 95)

 

🩺 Beth fydd yn digwydd yn ystod eich apwyntiad cyntaf?

Pan fyddwch yn dod i glinig GCICF, byddwch yn cael Asesiad Iechyd Cychwynnol gyda nyrs neu ymwelydd iechyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cwestiynau am eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol
  • Gwiriad iechyd sylfaenol

 

Byddwch yn cael cynnig:

  • Profion gwaed ar gyfer heintiau a phroblemau iechyd cyffredin
  • Sgrinio iechyd rhywiol
  • Help gydag unrhyw anghenion iechyd brys

 

Rydyn ni hefyd yn rhoi i chi:

  • Wybodaeth am y GIG yng Nghymru
  • Cyngor yn eich dewis iaith (rydyn ni’n defnyddio dehonglwyr ffôn os oes angen)

 

👨‍⚕️ Pa ofal arall allwn ni ei gynnig?

Os oes angen, gallwn ni hefyd:

  • Drefnu apwyntiad gyda meddyg neu nyrs
  • Eich atgyfeirio i ysbyty am ofal brys
  • Rhoi brechlynnau i chi yn seiliedig ar eich oedran a'ch iechyd
  • Sgrinio serfigol

 

👶 Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd

Mae Ymwelwyr Iechyd yn cefnogi plant 0–5 oed ac yn asesu anghenion iechyd plant 5–17 oed sy'n cyrraedd Caerdydd. Mae bydwragedd yn helpu gyda gofal yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth ar gyfer diogelu a sgrinio anffurfio organau cenhedlu benywod.

 

🕒 Oriau Agor

Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Gwener

⏰ 8:30 AM – 5:00 PM

Dydd Iau

⏰ 8:30 AM – 3:00 PM

Dilynwch ni