Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau ar gyfer pobl sy'n gadael y carchar neu sydd ar brawf

Cardiff Royal Infirmary Courtyard

 

Mae'r clinigau hyn ar gyfer pobl:

  • 👥 Sy’n ymwneud â'r system cyfiawnder cymunedol ac sy’n gymwys
  • 📝 Sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan rywun sy'n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol
 

Efallai y cewch eich atgyfeirio os ydych chi:

  • 🔄 Yn destun Rheoli Integredig Troseddwyr (RhIT)
  • 🧠 Yn destun Gofyniad Triniaeth Dedfryd Gymunedol (GTDG)
  • 🧩 Yn ymgysylltu â WIDSOM
  • 🚶 Ar brawf ac yn ddigartref
 

Nid oes angen apwyntiad i gael mynediad i'r clinig - gallwch chi gerdded i mewn - ond dylech chi gael eich atgyfeirio yn gyntaf.

 

👩 Allgymorth Prawf Menywod

Mae'r clinig hwn yn cael ei gynnal gan Cymru Ddiogelach yn eu swyddfa yn Stryd y Castell.
Gall menywod sydd ag anghenion cymhleth sy'n defnyddio gwasanaethau Cymru Ddiogelach alw heibio heb atgyfeiriad ffurfiol.

 

Manylion y Clinig

Siaradwch â'ch swyddog prawf neu'ch gweithiwr cymorth yn Cymru Ddiogelach ar gyfer amseroedd y clinig.

 

Atgyfeirio i wasanaethau

Mae'r clinigau hyn ar gyfer unigolion cymwys yn unig. Bydd pobl sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol (fel swyddogion prawf) yn:

  • Gwirio a yw rhywun yn gymwys.
  • Ei atgyfeirio i’r gwasanaeth gan ddefnyddio'r broses y cytunwyd arni.

 

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol ac angen help gydag atgyfeiriad, cysylltwch â'r tîm yn uniongyrchol.

Dilynwch ni