Mae pawb yn yr Uned Achosion Brys yno oherwydd eu bod nhw neu rywun annwyl wedi profi argyfwng sy'n peryglu bywyd, neu anaf difrifol. Felly mae'n gyfnod gofidus. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ganlynol yn ateb eich cwestiynau ac yn gwneud eich amser yn yr Uned Achosion Brys yn haws.
Noder, yn ystod eich ymweliad, peidiwch â gadael yr ardal aros heb hysbysu'r dderbynfa neu efallai na fyddwch yn cael eich gweld. Os penderfynwch eich bod am adael, rhowch wybod i aelod o staff.