Fferylliaeth Gymunedol
Dylech fynd at eich fferyllydd cymunedol yn y lle cyntaf i gael cyngor gofal iechyd neu driniaeth dros y cownter ar gyfer mân salwch.
Gall eich fferyllydd cymunedol hefyd ddarparu triniaeth neu gyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin, dulliau atal cenhedlu brys a thrwy’r geg a gall rhai fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol ragnodi'r feddyginiaeth angenrheidiol, heb fod angen i chi wneud apwyntiad gyda meddyg teulu.
I gael gwybod mwy am pryd i weld Fferyllydd Cymunedol gwyliwch y fideo hwn.
I ddod o hyd i'ch fferyllfa leol yng Nghaerdydd a Bro Morganwg ewch i dudalen Fferyllfeydd Cymunedol ein gwefan.