Yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty'r Barri
Mae'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty'r Barri yn wasanaeth apwyntiad yn unig sydd wedi'i gynllunio i drin amrywiaeth o fân anafiadau neu salwch.
Gellir cael gafael ar y gwasanaeth trwy ffonio 111 a threfnu apwyntiad. Nid gwasanaeth cerdded i mewn yw hwn.
Mae'r Uned Mân Anafiadau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am - 3.30pm, gan gynnwys gwyliau banc.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau, ewch i dudalen yr Uned Mân Anafiadau - Ysbyty'r Barri ar ein gwefan.