Neidio i'r prif gynnwy

Yr Uned Achosion Brys

Mae'r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i drin cyflyrau brys a chyflyrau sy'n peryglu bywyd.

Ffoniwch 999 os ydych chi, neu rywun gyda chi, yn profi argyfwng sy'n peryglu bywyd neu wedi profi trawma difrifol.

Mae argyfyngau meddygol yn cynnwys:

  • Poen yn y frest neu anawsterau anadlu
  • Arwyddion o strôc
  • Colli ymwybyddiaeth
  • Colli gwaed yn ddifrifol
  • Tagu
  • Cael ffit/confylsiwn
  • Boddi
  • Adweithiau alergaidd difrifol

Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich cyflwr yn argyfwng neu a yw eich cyflwr yn un brys, ond ddim yn peryglu bywyd, ffoniwch 111.

Bydd swyddog galwadau 111 yn eich cynghori ar y lle iawn i gael triniaeth ar gyfer eich cyflwr - gallai hyn fod y Gwasanaeth Brys y Tu Allan i Oriau, yr Uned Mân Anafiadau, eich Meddyg Teulu, eich fferyllfa gymunedol neu'r Uned Achosion Brys. Gallwch ffonio 111 am ddim.

Mae'r Uned Achosion Brys yn gwasanaethu poblogaeth o bron i hanner miliwn o bobl ledled Caerdydd a Bro Morganwg. Mae dros 450 o gleifion yn mynychu'r Uned Achosion Brys bob dydd yn rheolaidd.

Dilynwch ni