Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Ymchwil a Datblygu i Ymchwilwyr

Mae pob math o waith ymchwil yn ceisio ateb cwestiynau neu brofi syniadau. Mae'n ymwneud â datblygu triniaethau neu ofal gwell i gleifion, gwarchod a hybu iechyd gwell yn y lle cyntaf, a darparu gwasanaethau gwell. Os ydych yn aelod o staff neu'n ymchwilydd sydd eisiau cynnal astudiaeth yn y bwrdd iechyd, bydd y tîm Ymchwil a Datblygu yn gallu eich tywys trwy'r broses, gan gynnwys:

  • pennu a yw'ch prosiect yn waith ymchwil, archwiliad neu werthusiad gwasanaeth
  • pennu a yw'ch prosiect yn Dreial Clinigol o Gynnyrch Meddyginiaethol Ymchwiliol (CTIMP) y mae angen iddo gael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaeth ar gyfer Gofal Iechyd
  • sut i gael cymorth i ddatblygu protocol
  • gwneud cais am Nawdd gan y Bwrdd Iechyd (os oes angen)
  • sefydlu astudiaeth
  • cael cymeradwyaeth foesegol y GIG
  • cael caniatâd y GIG / cymeradwyaeth ymchwil a datblygu gan y bwrdd iechyd
  • mae angen caniatâd / cymeradwyaeth y GIG pan fydd gwaith ymchwil yn ymwneud â staff, cleifion, meinwe, organau neu ddata cleifion a defnydd o gyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

Hyfforddiant

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu rhaglen hyfforddi o ansawdd uchel a ysgogir gan anghenion ledled Cymru. Mae holl gyrsiau hyfforddi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig ardystiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Gweithdrefnau Gweithredu Safonol

Mae Arferion Clinigol Da (GCP) yn gosod cyfrifoldeb ar Noddwyr i roi Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) ar waith ar gyfer pob agwedd ar reoli treial clinigol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r swyddfa Ymchwil a Datblygu (cav-research.development@wales.nhs.uk) neu ewch i dudalen fewnrwyd Caerdydd a'r Fro neu wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

 

 

 

Dilynwch ni