Mae pob math o waith ymchwil yn ceisio ateb cwestiynau neu brofi syniadau. Mae'n ymwneud â datblygu triniaethau neu ofal gwell i gleifion, gwarchod a hybu iechyd gwell yn y lle cyntaf, a darparu gwasanaethau gwell. Os ydych yn aelod o staff neu'n ymchwilydd sydd eisiau cynnal astudiaeth yn y bwrdd iechyd, bydd y tîm Ymchwil a Datblygu yn gallu eich tywys trwy'r broses, gan gynnwys:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu rhaglen hyfforddi o ansawdd uchel a ysgogir gan anghenion ledled Cymru. Mae holl gyrsiau hyfforddi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig ardystiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae Arferion Clinigol Da (GCP) yn gosod cyfrifoldeb ar Noddwyr i roi Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) ar waith ar gyfer pob agwedd ar reoli treial clinigol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r swyddfa Ymchwil a Datblygu (cav-research.development@wales.nhs.uk) neu ewch i dudalen fewnrwyd Caerdydd a'r Fro neu wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.